Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRON I CL. Rhif 113. MEDI, 1852. Cyf. X. anmîjton a ^aneston. JOSEPH O ARIMATHEA. "Ac wele gwr a'i enw Joseph, yr hwn oedd gynghorwr, gwr da a chyfiawu :—ìiwn a ddaeth at l'ilat, ac a ofynodd gorff yr Iesu."—Luc. Y mae gan y ddau Destament eu Josephau, ac oll yn enwog. Joseph yr Hen Destament oedd y breuddwydiwr, mab Jacob, un o'r deuddeg brodyr, y meddyliwyd ei ladd, a datìwyd i'r pydew, a gyf'odwyd drachefn ac a werthwyd i'r Midianiaid, a ddygwyd i'r Aifft, a fu yn nbý Putiphar, a fwriwyd i garchar, a ddehonglodd freuddwydion, a dder- chafwyd i ymyl Pharaoh, ac a fu yn offeryn i gadw miloedd rhag marw o newyn, beblaw ei dad a'i frodyr. A sonia y Testament Newydd am Joseph y saer, a'r Joseph hwn o Arimathea. Nid yw yr hanes am dano ond byr, er hyny y mae yn effeithiol, canys deil bertbynas â'r amgylchiad pwysicaf y clywwyd erioed am dano drwy y nef na'r Hawr. Mae dweyd fod yr haul wedi machludo yn tybied ei fod unwaith yn y golwg ; y mae dweyd fod y ganwyll wedi diffodd yn tybied ei bod unwaith yn goleuo; y mae dweyd fod dyn wedi marw yn tybied ei fod unwaith yn fyw; ac y mae yr ychydig bethau a ddywedir atn Jo9eph yn tybied llawer o betbíMi eraill ac sydd yn gwbl mor eglur. Gelwir ef Joseph ojlrimathea. Pentref oedd hwnw o gylch 36 milldir o Jerusalem. Dyma le genedigol Joseph, ond yr oedd yn awr wedi symud i'r brifddinas. Peth cyffredin yn mhob oes a gwlad yw bod un yn dechreu ei fywyd yn un man, ac yn ei ddiweddu mewn man arall. Genir ef yn y pentref, lle y mae y glaswellt yn tyfu ar hyd y llwybrau, a dim ond cyfarthiad y ci a thwrw y ddylluan yn aflonyddu tawelwch y nos: symuda wedi byny i'r dinasoedd trystfawr, a cbeidw fasnachdy yn Cheapside, neu y Sfrand, neu Fleet-street, neu Market-place Manchester. Adwaenir y bythynod lle y ganwyd rhai ag y bu wedi hyny gyfodiad eu bys yn ddigon