Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEONICL, Rhif 108. EBRILL, 1852. Cyf. X. (Eofiamí. MRS. TIBBOT, LLANFYLLIN. MYNYCHein gelwir i weini i gyfeillion hoffusaf ein mynwes pan yn eu hymdrech ag angeu ; ac aml y dygir ni hyd làn y bedd i syllu, a'n calon yn drom, a'n llygaid yn ffynhonau o ddagrau, ar eu gweddillion yn cael eu gollwng i'w Ilety cul hyd ganiad yr udgorn diweddaf. Boreu dydd Gwener, Ionawr 16, ymadawodd ein tirionaf fam, Mrs. Tibbot, â lioll oíìdiau taith flinderus yr auial, ac ehedodd ei bysbryd i'w artref dedwydd yn 58 oed. " Ei haul a fachludodd tra yr oedd hi etto yn ddydd." Collasotn un a garem yn gu iawn, un a wyliai drosom ar bob cam, ac a weinyddai er ein cysur bob amser. Parod ydym i ddywedyd " na fu gofid neb fel ein gofid ni." Etto ni fynem alaru fel rhai heb obaith, " Canys gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef." Y mae gobaith ei gweled etto yn yr "adgyfodiad gwell," wedi ei gwisgo ar ddelw ei Brawd hynaf, a chael uno gyda hi, ac eraill a'i blaenasant, i ganu yn ddiddiwedd i Dduw ac i'r Oen. Ganwyd Mrs. Tibbot yn y Maesnewydd, ger Talybont. Yr oedd ei rhieni, Richard ac Eliaabeth Morgans, a'u teulu, yn un o'r teuluoedd mwyaf parchus yn mlaenau swydd Aberteifi; ond nid ymddengys iddi roddi fawr o hyder ar ddâ y byd hwn. Hynododd ei hun ynforeu gyda chrefydd; ac nid gormod dweyd mai ei dyddiau boreuol, pan yn " Anne Morgans o'r Maesnewydd," oedd y rhai a'i bynodent fwyaf mewn gweitbgarwch. Yr oedd ei cblod trwy holl eglwyei y gymydogaetb, a'i henw yn adnabyddua i holl weinidogion y wlad.