Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EFENGYLYDD. 57 Cyfrol I. Rhif4. Ebrill, 1909. " Süanwer Cbwt a'r I2sínŵ" /T^WIREB yw dweyd mai swydd y Beibl Vl^ yw dadguddio y byd ysbrydol. Y mae pob gwybodaeth sicr am y byd liwnw wedi deilliaw o'r Beibl, ac o'r Beibl yn unig. Nid yw pobpeth arall a wyddom neu a dybiwn a wyddom, amgen dyfal- iadau anwybodus meddwl dyn neu dwyll-ddadguddiadau Satan a'i angyl- ion. Yn ol y Beibl ceir yn y byd ysbrydol ddwy deyrnas wrthwynebol i'w gilydd, y naill mor bendant yn ei phwrpas, ac mor drefnus ei chynllun i sylweddoli y pwrpas hwnw, a'r llall. Yn y naill, ceir y tywysogaethau, yr awdurdodau a'r thronau syrthiedig, bydol-lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn ac ysbrydion drwg, a'r oll o dan awdurdod Satan, tywysog llywodraeth y.v awyr a'r byd hwn. Yn y llall, ceir yr oll o'r cerubiaid, seraphiaid, a'r angylion a gadwasant eu dechreuad, yn nghyd ag ysbrydoedd y cyfiawn, y rhai berffeithiwyd, a Duw yn Frenin arnynt oll. Credwn hefyd, mai nid gormod yw âweyd fod Gair Duw yn dysgu nad yw'r cwbl a welir yn myned yn mlaen yi\ y byd dynol yn ddim amgen nag arddangosiad o weithrediadau bôdau ysbrydol yn y byd anweledig. Y mae fîynonell pechod yn y naill, a fîynonell rhinwedd a daioni yn y llall o'r ddwy deyrnas ysbrydol a enwyd. Y mae ysbrydoliaeth o un o ddwy natur _ yn mhob gweithred a gair o eiddo dynion. Y mae eychwyniad pob symudiad a welir yn y byd dynol i'w gael mewn rhyw ran neu gilydd o'r byd ysbrydol, anweledig hwnw sydd ar wahan i ddyn. Dyna'r paham j sonia'r Beibl am cíysbryd""hyn ac " ysbryd " y llall; megis " ysbryd celwydd " ac " ysbryd y gwirionedd " ; " ysbryd eiddigedd " ac " ysbryd cariad " ; " ysbryd dewin- iaeth " ac " j^sbryd datguddiad " ; " ysbryd ofn " ac " ysbryd cadernid," &c. Y mae i bob llygredd a phechod ei ysbryd neillduol ei hun, ac felly hefyd i bob rhinwedd a grâs. Y mae safbwynt yr Ysgrythyr o ediych ar y pethau hyn yn rhoddi i ni olwg syml iawn arnynt. Ymgais fawr pob un o'r ddwy deyrnas ysbrydol hyn yw medd- ianu dynion fel ag i allu mynegi eu hunain drwyddynt. Nid yw y fíaith hon yn gormesu dim ar ryddid ewyllys dynion, nac yn symud dim o'u cyfrifol- deb moesol. îthydd y datguddiad Dwyfol wTybodaeth i bawb am gyflwr pethau yn y byd anweledig, ac y mae yn ngalìu dyn i ddewis pa fath rai o'r bodau ysbrydol hyn a gânt fynegi eu bywyd ynddo a thrwyddo. Niä gall na Satan na Duw ddefnyddio dyn ond fel yr ildia efe ei hun i'r naill neu'r llall o honynt. Ac y mae pob ewyllysiad o eiddo dyn yn" golygu ei fod, yn ym- wybodol neu yn anvmwybodol, yn ildio, naill ai i Ysbryd Duw neu i ysbryd yr un drwg. Os ceir eiddigedd yn nghalon ac yn ngeiriau ac actau dvn. y mae hyny o herwydd iddo roddi ei hun yn was i ufuddhau i " ysbryd eiddigedd " (Num. v. 14, 80, y.d.). A'r un modd, pan y crêd ac y dywed " gelwydd " (1 Bren.