Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EFENGYLYDD. 105 Cyfrol I. Rhif7. Gorphenaf, 1909. Gerbsb "îör Bfenaẅ&ö.' " Cerbyd Yr Efengylydd ! " meddai'r darllenydd. " Beth all hwnw fod?" Gadawer i ni egluro. Ychydig wythnosau'n ol, cyrhaedd- odd llythyr i'n dwylaw oddiwrth un o "ferched y Brenin" yn dweyd ei bod yn ddiweddar wedi cael ei harwain í bwrcasu Gospel Van ar gyfer gwaith yn jNghymru, a'i bod gyda llaw yn teimlo mai ewyllys yr Arglwydd oedd iddi ofyn i Olygydd Ye, Efengylydd i'w derbyn fel rhodd yn ei Enw Ef. Daeth llawer cynyg caredig i'n dwylaw erioed ond—Gospel Van! Beth allem ni wneyd â hi! Gwir i ni fod yn breuddwydio lawer gwaith am y gwas- anaeth a ellid trwy gyfrwng o'r fath, ond yr oedd yr anhawsderau yn gyniaint ae yn gynifer, fel o'r braidd y mentrasom obeithio y deuai'r breudd- wyd byth i ben. Ond nid oes dim yn amhosibl i'n Duw ni! Nis gallem droi ymaith yn ddiystyr oddiwiiih y cynyg. Cymerwyd amser i'w feddwl yn weddigar. Ymgyng'hor- wyd â'r Arglwydd ac â rhai o'n brodyr, a daethom i'r penderfyniad sicr fod ei law Ef yn y peth, ac mai ei ewyllys oedd i ni dderbyn yr anrheg. Felly y gwnaethom. Derbyniasom y Van fel rhodd o'i law Ef. Ond bellach, beth a wneir o honi? K"is gŵyr neb hyny ond yr Arglwydd, ác yr ydym yni hyderus ddisgwyl i wybod beth a ddywed Efe wrthym. Nid oes a wâd fod angen rhywbeth yn ychwanegol at y moddion arferol yn Nghymru heddyw, os yw ein cenedl anwyl i gadw i fyny urddas ei hanes crefyddol, ac i gael ei hatal i suddo i'r dyfnderoedd o annuwioldeb yr ym- ddengys heddyw fel pe ar eu dibyn. Credwn yn ddiysgog, y gellir drwy gyfrwng fel yr un am yr hwn yr ydym yn son, gyfranu rhyw gymaint beth bynag tuag at yr amcan hyn. 0 dan ofal brodyr ymroddol, cym- hwy», a phrofiadol, gall y Van ym- weled â'n trefydd a'n hardaloedd gweithfaol poblog, i geisio atal yr ieuenctyd yn eu rhawd anystyriol a'u hymgais anniwall am bleserau diryw- ìol; gall gyhoeddi buddugoliaeth i'r truan meddw sydd ar orwedd i lawr mewn anobaith ar ol ymdrechion ofer i feistroli ei wanc; gall alw eto i mewn, llu afradloniaid y Diwygiad, a chyhoeddi newyddion da i íìloedd na osodant droed tufewn i addoldŷ; gall gario efengyl gyflawn i'r crefyddwr arwynebol mewn gwlad a thef, a seinio'r alwad i sancteiddrwydd yn nghlyw'r credadyn na ŵyr ddim ond efengyl maddeuant pechodau. Gall hefyd, lle bynag y bydd, yn y " gweithiau" neu'r " wlad," fod yn gyrchfan i'r neb a fyno gael cynorthwy ysbrydol mewn cynghor, neu weddi. 0 honi hefyd, gall firydiau o lenyddiaeth lifo allan, megis traethodau, llyfrau, &c, ar faterion Beiblaidd, athrawiaeth efengyl- aidd, a gwrtaith bywj^d ysbrydol. Ond dyna, haws i'r darllenydd feddwl nag i ni ddesgrmo yi^ oll o'r gwasanaeth amryfal sydd yn bosibl trwy gyfrwng o'r fath.