Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EFENGYLYDD. 121 Cyfrol I. Rhif8. Awst, 1909. ' * •1«^*- *" * DIWYGIAD '59 YN ddiweddar, buwyd yn dathlu haner - can - mlwydd- iaeth Diwygiad 1659. Cynal- iwyd cyfarfodydd neillduol yn Llundain a manau eraill yn Lloegr i'r pwrpas hyny. Ni ddigwyddodd i ni wybod fod unrhyw beth wedi ei wneutbur yn Nghymru i gofio am y tywalltiad nerthol roddwyd yr adeg hono yn nglyn â gweinidogaeth Dafydd Morgan. Sut y bu i Gymru esgeuluso'r cyfle hwn i ddiolch am '59 ? A yw ein gwlad yn colli ei gwerthfawrogiad o fendithion ymweliadau neillduol yr Ysbryd? Ä ydyw'r eglwysi wedi tramgwyddo gyda'r allanol a'r digwyddiadol dibwys yn Niwygiad 1904-5, ac yn methu cydnabod gwerth y fendith gyfoethog o fywyd newydd addaeth trwyddo? A yw y gair " Diwygiad " yn peidio bod yn roesawol yn ein mysg ? Beth bynag, nid felly y teimla ein cymydogion, y Saeson. Ni theimlasa,nt hwy nemawr o'r nerthoedd ysbrydol a ysgubodd dros Gymni bedair bìynedd yn ol. Y mae haner can' mlynedd oddiar pan y teimlasant hwy gynhyrf- iadau diwygiadol cyf redinol. Nid yw, gan hyny, yn rhyfedd os ydynt heddyw yn ngafael cnöadau newyn a syched am gael profìad eto o flynyddau deheu- law'r Goruchaf. Darllenasom gyda blas hanes rhai o'r cyrddau a nodwyd uchod, a dyddorol iawn oedd cael cymharu '59 â'r Diwygiad diweddar yn Nghymru. Ym- ddengys mai yr un yw nodweddion amlycaf ac hanfodol Diwygiad bob amser ac yn mhob man, a gellir eu desgrifio fel (1) argyhoeddiad dwfn o bechod: (2) profìad pendant a chlir o heddwch a rhyddid; (3) hyder sicr yn nglyn â chadwedigaeth bersonol; (4) llawenydd diball ac aflywodraethus yn tarddu o hyny : (5) brwdaniaeth mewn ymdrech i gael y colledig i adnabod y Ceidwad; (6) gweledigaeth o'r sanct- eiddrwydd cyrhaeddadwy i'r dyn yn ISTghrist; (7) ymgyflwyniad trylwyr ysbryd, enaid a chorph i wasanaeth yr Arglwydd. Mewn gair, y mae Diwygiad bob amser, a hyny mewn modd synfawr o syml, yn datod pob dyryswch ac yn symud pob anhawsder ag y mae yr eglwys, heb yr Ysbryd, yn ymdrechu yn ofer i ddelio â hwynt. Pan y disgyn Efe, todda'r holl fynyddoedd. ü, pa bryd y dysgwn nas gallwn ddim beb yr Ysbryd Glân ? A pha fodd y gallwn gael dychweliad yr hen nerthoedd? Y mae, ys dywed un, yr Ysbryd Glân fel cynt yn barod eto i dafln pelydrau ei wres a'i oleuni arnom. Ond rhaid i'r rhai a lefarant dros Grst lefaru oddiar brofìad gwirioneddol. Rhaid iddynt lefaru gwirionedd fel rhai ag y mae gwirionedd yn beth bywydoî iddynt. Rhaid i' erthyglau eu credo olygu ar- gyhoeddiad y galon yn ogystal a chyd- syniad y deall. "Ni raid i ni aros am yr Ysbryd; y mae Efe yn aros am danom ni. Pan y deuwn at y Pente- cost trwy Galfaria, daw nerthoedd y Pentecost i weithio ynom ninau fel ag y gwnaethant yn '59, wedi hyny, a chynt.