Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EFENGYLYDD. 153 Cyfroll. RhiflO. Hydref, 1909. GWAITH HYFEYD yw clywed a sylwi fod cryn lawer o awyr agored. adfywiad yn y dyddiau hyn yn nglyn â chyrddau yn yr awyr agored. Gwir fod a fyno'r tymhor a r tywydd braf diweddar lawer i wneyd â hyn; eto i gyd, credwn f od y gwaith yn cael ei gymeryd i fyny yn awr gyda mwy o afael ac asbri nag o fewn ein cof. Cydnabyddwn yn ddiolch- gar mai gwaith yr Ÿsbryd yw hyn, yr Hwn, yn yr amser tawel, digyffro y daethom yn ddiweddar drwyddo, fu yn ddirgel barotoi ei bobl ar gyfer ym- drech egniol a llwyddianns yn y cyfeir- iad hwn. jSTìs geílid, efallai, ymroi i'r gwaith gyda gwell cyrnhellion " nag a'n hysgogent adeg y Diwygiad, ond yr oedd gwir angen gwell dealldwriaeth o'r moddau llwyddianus o'i gario'n mlaen. Yn y cyfamser, cawsom hamdden i gydnabod fod angen rhyw- beth mwy na phrofiad o heddwch tuag at Ddnw i wneyd tyst effeithiol yn yr awyr agored. Gwelsom yr angen am barotöad gofalus ysbryd a chenadwri y siai-adwr, yr angen am gynllunio'n fedrus ac am y ddoethineb oddi uchod i gyflwyno'r gwirionedd fel ag i hoelio sylw ac argyhoeddi cydwybod y gwrandawr. Nid yn ofer y b'uwyd yn gorphwys enyd oddiwrth y gwaith hwn os dysgasom mai cyfleu nid i rywun, eithr i'r cyfoethocaf ei ddawn naturioí ac ysbrydol yw'r cyfarfod yn yr awyr agored. Wrth reswm, wrth ddywedyd hyn, ni olygir cyfyngu ar hawl na gallu Duw i ddefnyddio'r distadl a'r dir- mygiis, eithr yn hytrach i bwy^sleisio pwysigrwydd y gw^aith. Diau y bydd yn rhaid i'r eglwys ym- dafhi i'r gwaith hwn mewn ^mesur cynyddol. Tra, y llwyddid yn weddol i lenwi'r capelan, anhawdd oedd dar- bwyllo llawer o'r angenrheidrwydd am waith fel hwn, ond erbyn hyn, os mynir gafael ar y bobl, rhaid myned allan atynt, oblegid amhosiui bellach yw bod yn ddall i'r fíaith resynol fod y llu yn encilio o'r addoldai. Ar itii olwg nid ydym yn gresynu yr angenrheidrwydd am y gwaith hwn, oblegid bydd yn fen- dith anhraethol i'r eglwys. " Gwna social teas, &c, y tro i gadw yn yr eglwys y rhai a, unwyd â hi heb brofìad o bethau mawrion y gadwedigaeth, ond os yw'r llu o'r tuallan i'w henill trwy bregethu yn yr awyr agored, yna ì-haid i'r eglwys fyn'd ati o ddifrif í astudio'r Efengyl ac amodau pendant a syml yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist. Nid yw yn anhebyg ein bod ar drothwy cyfnod tebyg i gyfnod Wesley, Whit- íield, Hywel Harris, &c. Y mae yn dra arwyddocäol mai pregethwyr mawr yn yr awyr agored oedd rhai o bregeth- wyi- mwyaf Lloegr a Chymrn yn y canrifoedd diweddaf. Yn nglyn â hyn, dyddorol yw sylwi ar genadaeth awyr-agored Esgob Man- ceinion yn Blackpool. Cynelid y cyrddau ar y traeth yn y lle hwnw, a cheid tyrfaoedd yr ymwelwyr i wrando Pregethai yr Esgob yno ei hun, a hon yw'r bumed flwyddyn iddo wneuthur hyn. ])yma esiampl dda, nid yn nnig i'w gyd-esgobion, ond i weinidogion pob enw^ad. Pwy a argymer waith fel hyn yn lioliday resorts Cymru'?