Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-:,;/........... JÊtí ' ■ <gDÌ5=>- FENGYLYDD. "/ berffeíthio y saint, i <waith y nueinidogaetb, i adeilad corph Crist." Rhagfyr 15, igio. Tair Blwydd Oed. Gyda'r rhifyn presenol daw Yr Efengylydd i ben ei dair blwydd oed, a gorphenir yr ail gyfrol o'r gyfres newydd. Bu bendith yr Arglwydd yn sêl amlwg ar ein cylcbgrawn bychan o'r cychwyn, a chyfiwynwn iddo ein clod am hyny. Gyda golwg arnom ein hunain a'n îîafur, rhaid cyfaddef mai gweision an- fuddiol fuom. Gwnaethom a allem, ac yn ol ein goleuni, ond darostyngir ni gan yr ymwybyddiaeth o luaws y difíygion. YmgyÜwynwn i'r Arglwydd gyda golwg ar waith y íiwyddyn ddyfodol gyda theimìad dyfnach o ddibyniad arno Ef nag erioed^ Ddar- llenwyr anwyl, a wneweh chwl gofio y gwnawn ein gwaith yn llawer gwell os peidiwch chwi ag anghofìo gweddio drosom. Yn nglyn â hyny, a gawn ni eich hadgoiio o'r Dydd Gweddi Misol, ar yr ail ddydd Mawrrth yn mhob mis. Ceir cyfle yn hwnw i gyd-gyfaríod o gylch ei Orsedd Ef i uno mewn cleisyfìad dros Yk Efengylydd, y Cerbyd, a phob un a wasanaethaat yn nglyn â hwynt. Erfyniwn yn daer am gyd-ymdrech pob un 0 honoch yn hyn o waith. Byma allwedd y cwbl. Uaeth i ni fendithion lawer eisoes, ond pwy a ŵyr y gwaith a wneid drwy'n Cyhoeddìad a'n Cerbyd pe ceid llu ein darllenwyr yn ftyddlon niewn gweddi drostynt ? Chwyddor Cylchrediad Tra'n gwynebu blwyddyn newydd, naturiol yw ein bod yn awyddus i luosogi nifer ein darllenwyr. Y mae ein cylchrediad o'r dechreu wedi bod yn destyn rhyfeddod i ni. Credwn ei fod yn cyrhaedd yn agos i bob mangre yn y wlad lle y ceir dynion wedi eu defíroi i fywyd ysbrydol. Er hyny, nid ydym yn foddlawn ar a gyrhaeddwyd. Diau, y cj^tunir fod ei genadwri yn gyfryw ag y mae ei hangen ar yr eglwysi oll, ac mai ychydig, yn gymharol, o leisiau sydd yn y wJad yn cyhoeddi'r gwirioneddau y bodola'r Etengylydi) i'w dal i fyny. Gan hyny, onid ein dyledswydd a'n braint yw gwaagaru'r gwirionedd yn ol ein g-aìlu ? Os yw ein cjdchrediad i gael ei ledaenu, dibynwn ar ein darllen- wyr i'n cynorthwyo. Y mae llawer ffordd i wneuthur hyny, ac ymgynygia rheiny yn rhwydd i'r rhai awyddus. Awgrymwn un íîordd yn unig. Y mae llawer 0 honom yn ddosbartliwyr tracts; pa draethodyn yn y Gymraeg yn well na'r Eeengylydd i grefyddwyr na wyddant nemawr, os dim, am y gwir- ionedd yn nghylch Sancteiddrwydd, yr Ysbryd Glân, yr Ail-Ddyfodiad, &c. ? Gwasgwn ar ein darllenwyr yr angen sydd am eu cydweithrediad aiddgar a chyfíredinol yn y cyfeiriad hwn.