Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

>■'',.:-!»' <Q^=» FENGYLYDD. ' / berffeíthio y saint, í <voaith y iveinidogaeth, i adeílad corph Crtst." Tachwedd 15, 1910. Dau a thri mis yn ol, galwasom Gwaìth Sylw 6in darllenwyr at y ffaith Tramor, fod £27 yn íiynyddol wedi eu gosod at wasanaeth Yr Efengylydd yn nglyn â gwaith Cenadol Trainor. Addewir y swm uchod gan ddau frawd, un yn gyfrifol am £26. a'r Ua.ll am £1. Daeth y meddylddrych trwy y cyntaf o'r ddau, ao y mae ef yn argyhoeddedig mai oddiwrth Dduw y daeth iddo, Wedi gwneuthur o honom y peth yn hysbys, un brawd yn unig a ohebodd â ni, a'r cwbl o'i ohebiaeth oedd : " Mi fydd yn hyfrydwcb genyf gyfranu £1 yn y flwyddyn tuag at Genadaeth Dramor Yr Efengylydd." Dichon nad yw corph ein darllenwyr eto wedi sylweddoli yr byn sydd mewn llaw, na'r pwysigrwydd iddynt ein cynorthwyo â'u oynghor yn y mater. Credwn y mynai'r Arglwydd ein tynu yn nes mewn cyd- ymgyngboriad yn ogystal ag mewn cyd- ymdrecb yn mhethau pwysig y gwaith y geilw ni iddo. Hyderwn nad yw'n darllen- wyr yn anufudd i'r Ysbiyd ac yn esgeulus o'r cyfrwng sydd yn y Llythyrdŷ i anfon i ni y gair hwnw o gyfarwyddyd, cynghor, neu rybudd a esyd yr Ỳsbryd yn eu calon. Trysorf'a. Newydd. Fodd Wnag, bu rhai o honoiti yn ceisio gwybod ewyllys yr Arglwydd yn nglyn â'r peth, a'r penderfyniad y daethom iddo yw mai yr unig lwybr sydd agored yw i ni hysbysu cyohwyniad Trysorfa yn nglyn â'r Efengylydd gyda'r amcan o gynorthwyo unrhyw waith Cenadol Tramor a gymer- adwyir i ni. Gelwir hi Trysorpa Gynorthwyol Cbnadaethatj Tramor. (Foreign Missions' Áid Fund). Hyd oni cheir amser i benodi Trysorydd, gellir danfon pob cyfran i ofâl y Golygydd, a chydnabyddir hwynt yn fisol yn ein tudalenau. Yr hyn sydd yn ein calon gyda golwg ar lëoliad yr arian a gyfrenir yw cynorthwyo gwaith fel yr hyn a gerir yn mlaen gan y China Inland Mission, Angola Evangelical Mission, Mildmay Mission to the Jews, South America E'Yangeiical Mission, a'r cyfi'elyb,—Cenadaethau anenwadol sydd yn cario eu gwaith yn mlaen heb wneyd apel am gynorthwy at neb ond at Dduw. Carem befyd fod yn sicr fod i'r arian gael ei ddefnyddio at y gwaith o bregethu'r Efengyl, ao nid at ddybenion gwareiddiad yn unig. Ofnwn y pwyslais arbenig osodir heddyw gan Gymdeithasau Cenadol ar addysg a " dyngar- wch." Nid ydym yn myntumio nad oes eu lle i ysgolfeistri a meddygon ar y maea cenadol, ond i bregethu y danfonodd y Meistr y cenadon cyntaf. Hefyd, nid ydym yn hoffi'r nosiblrwydd fod ein cyfianiadau at rhai Cymdeithasau Cenadol yn cael eu defnyddio i gynal Cenadon a ddysgant yn agored yn India a nianau eraill, yr hyn a adwaenir wrth yr enwau " Yr Uwch- Feirniadaeth" a'r " Dduwinyddiaeth Newydd." Gallem ymhelaethu llawer ar hyn ; dichon mai eto y ceir y cyfle goreu i hyny. Ymataliwn yn awr a gorphenwn trwy ddweyd, os gesyd yr Arglwydd ei sêl ar y Drysorfa sydd yn awr yn cael ei chych- wyn, yr arferwn, fel Cyfarwyddwyr Yr Efencylydd, bob gofal na cha'r arian eu cyfeirio ond i gynorthwyo gwaith a gerir yn mlaen ar linellau gwirionedd a phwrpas yr Efengyl. Gofynwn am weddi arbenig ein darllenwyr drosom fel y caffom ras a doethineb i hyn o oruchwyliaeth. Byddwn yn wastad yn a<jored ac yn falch i dderbyn unrhyw awgryra a ddichon fod 0 help.