Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

~^§I5^=»- FENGYLYDD. "I berffeithio y saint, i <waith y lueinidogaeth, i adeilad corph Críst." Cyfrol II. Rhif 8. Awst 15, 1910. Ychydig flynyddau'n ol, deffrodd Yr Ysbryd miloedd o honom i'r ffaith fod Giars. Ysbryd Glân. Am flynyddau cyn hyny ychydig siaredid am dano ; ond, gyda y daeth y Diwygiad, ychydig siaredid am neb arall. Erbyn hyn, 'daeth dystawrwydd drachefn yn ei gylch. Mor fyr yw'n côf! Gwelwn, er hyny, arwyddion lawer fod yr Ysbryd bendigaid unwaith yn rhagor yn mynu sylw ato ei Hun, ac at yr angen sydd ar blant Duw am lawnder mwy o Hono. D'aw poen, ie, ing, i galon llawer wrth feddwl am anffrwyth- londer eu tystiolaeth, methiantau eu hym- arweddiad, oerni eu teimlad, sychder eu profiad, a'u diffyg blas at Air Duw a gweddi; a daw gwaedd daer o ganol yr angen am ychwaneg o'r Ysbryd Glân. Gwyddant mai angen yr Bedydd yr Ysbryd sydd arnynt, am mai Ysbryd. Efe ciorodd ei \ syched yn mlynyddoedd y Diwygiad. Ond pa ffurf arno, neu yn mha fesur i'w geisio nis gwyddant. Cìywant son am " fedydd yr Ysbryd Glân,'' ond nid oes yn y term fawr goleuni iddvnt, ac ofnant ymdaflu i'w geisio rhag thoddi cyfle i'r gelyn i'w twyllo â bedydd gau. Darllenant a chlywant am dafodau, ac am arddangosiadau eraill a gyd- ddigwyddant lle y cafwyd yr hyn a elwir yn " fedycld," neu ddawn Bentecostaidd yr Ysbryd. Myntumir gan un dosbarth, na ellir cael Pentecost heb dafodau, Y mae " tafodau," meddir, bob amser yn d'od gyda gwir fedydd yr Ysbryd. O' dan boen ei angen, ac yn nghanol y lleisiau hyn eaif llawer disgybl mewn cryn benbleth. Nis gŵyr beth i'w ddweyd, a da yw iddo, os meddianodd ei hun mewn amynedd, heb farnu'n frysiog yr hyn na ddeallai. Heb ymdroi i benderfynu Yr Angen ystyr na ffynonell y pethau am Dano. rhyfecld a wneir ac a ddywedir yn nglyn â'r mudiadau ysbrydol hyn, gwell fydd i ni gydnabod yn syml y rhaid fod gan Dduw gyflawnder mwy o'r Ysbryd i ni. Nid enw na ffurf hyny sydd o bwys, nac ychwaith y cwestiwn, os daw âg arwyacuon o gwbl gydag ef, pa arwyddion fyddant. Gallwn adael hyny i Dduw. Os daw yr arwyddion a nodwyd, neu rjw rai eraill, pob peth yn dda, ac, os na ddaw arwyddion o gwbl, pob peth yn dda; bydded hyny yn ol ewyllys yr Ysbryd. Rhydd addefwn nad yw tystiolaeth y Gair, hyd yn hyn, yn glir i ni ar y mater. Ond, sicr yw, fod yna brofiad o'r Ysbryd na chafodd llawer o honom mo hono eto. Y profiad helaethach hwnw yw'r hyn y gwaedda'n calon am ei gael. Bu llawer o geisio am dano. Treuliwyd oriau yn y dirgel gyda Duw gan ei daer ddeisyf. Büwyd am wythnosau, misoedd, yn disgwyl ei dderbyn, ond ni ddaeth. Paham? 0! pe caem ateb i'r " Paham '' hwn. Mor dded- wydd fyddem! Mentrwn gynyg i'n darllen- wyr yr hyn i ni a ymddengys yn egluro'r " oaham " y mae llawer o honom eto heb dderbyn y mesur helaethach o'r Ysbryd. Gellir, mewn dau air, symio " Derbyniwch^ i fyny yr hyn ddywedodd ein ac" Aroswch.' Harglwydd yn nglyn â'r Ysbryd yn ei ymddiddanion olaf cyn ei esgyniad. Y ddau air yw, " Derbyniwch'' ao "Aroswch." Hawdd fydd i'r darllenydcl gofio'r cvpylltiadau. I'r cíisgyblion, "yn h^vyr y dydd cyntaf HWNW o'r wrthnos"—dydd yr adgyfodiad (Ioan xx. 19-22) safodd yr Iesu yn nghanol ei ddis- gyblion, ac wedi iddo anadlu arnynt, dywed- odd wrthynt, " Derbyniwch yr Ysbryd Glân." Yna,—dichon mai dydd ei esgyniad oedd