Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSOR I BIiENTYN* AM » AWST, 1837. Rhif. 8.] PRISCEINIOG. [Cyf. xm. Y PROPHWYD JONAH. Cadwedigaeth Jonah yn mol y môrfil oedd wyrth dra nodedig, ac y mae anffyddWyr gwedi aml chwerthin am ben y cristionogion am gredu hyny. Eu gwrthddadleuon a osod- ir i lawr fel y canlyn gan Mr. Stackhouse yn ei hanesiaeth o'r Beibl. "Fod i ddyn a daflwyd i'r môr, a'i holl ddillad am dano, iddo yn yr eiliad hòno o amser, gyfarfod â'r fath bysgodyn a'r na chlywid am dano erioed o'r blaen, ag oecfä yn ddigon mawr i'w lyncu mewn moment, ac heb niweidio blewyn o'i ben, a'i gadw yn ei gylla gynifer o ddyddiau a nosweithiau yn fyw; ac yn y carchar pruddaidda chyfyng hwn, y byddai yn alluog i anadlu, byw, a chael ei feithrin, ac anfon i