Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSOII î BLENTYN ÂM EBRILL, 1837. Rhif. 4.] PRIS CEINÌOG. [Çyf. xiii. ARGYHOEDDIAD MAB AFRADLON. Yb oedd dyn ieuanc annuwiol wedi dir- mygu a diystyru holl orchymynion a chyfar- wyddiadau duwiol ei rieni. Ar ryw achlys- ur, aeth gyda hwy i wrando gweinidog pobl- ogaidd ; y pwnc oedd, y nefol gyflwr, neu ddedwyddwch y saint yn y nef. Wrth ddy- fod adref, canmolodd y gŵr ieuanc dalentau y gweinidog; ond tröodd at ei fam, ac a ddy- wedodd, "Mi a ryfeddais, pan oedd gwên ar bob gwyneb o amgylch i mi, yr oeddech chwi a fy nhad yn drist, galarus, a thrwm, a mwy nag unwaíth mewn dagrau. Yr oeddwn yn rhyfeddu, (medd y gŵr ieuanc drachefn,)