Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

32 C^fatll lEglwrçsíg. ORIAU HAMDDENOL. fWBSGIR llawer arnom am wneyd iawn ddefnydd o'r doniau a roddwyd i ni gan Dduw mewn cread- igaeth a rhagluniaeth. Y doniau hyn yw y talentau, y cyfalaf moesol ac ysbrydoL a rodded i ni i farchnata â hwynt yn nydd gras. Trwy iawn ddefnyddio y rhai hyn y dadblygir rhinweddau moesol ac ysbrydol ein cymmeriad ein hunain, ac y dylanwadir er daioni ar gymdeithas oddi amgylch. Felly y dyg- wydd bob amser i'r hwn a ddefnyddio ei ddoniau er daioni; y mae yn derbyn lles ei hunan ac yn gwneuthur Úes i ereilL ' Yr enaid hael a frasëir ; a'r neb a ddyfrhao a ddyfrhëir yntau hefyd.' Dyna un o brif ddeddfau y bywyd moesol. Y mae iawn ddefnyddio'r dalent yn dwyn budd i ereiÜ, ac yn ychwanegu at ei gwerth i'w pherchenog. Y mae y talentau yn amrywio o ran eu gwerth a'u natur a'u cyffredinolrwydd. Dawn ymadrodd, gallu i drysori ac i gyfranu gwybodaeth, hynawsedd a haelfrydedd tymmer, sefyllfa gyfrifol a manteisiol mewn cymdeithas, cyfoeth, dysg, diwylHant, &c. Dyma rai o'r talentau a ymddiriedwyd i ddynion i farchnata â hwynt. Nid yw y Creawdwr doeth a da wedi cyfranu i bawb yn gyfartal; ond y mae amrywiaeth mawr i'w weled yng nghynneddfau, galluoedd, cyfleusderau, sefyllfaoedd, a doniau dynion ym mhob oes ac ardal. ' Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddyeithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt. Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ol ei allu ei hun.' Ni ddywedir yma fod neb heb yr un dalent. Y wers bwysig a ddysgir i ni yn Nammeg y Talentau, ac yn wir mewn llawer man arall yn yr Ysgrythyr I,ân yw, fod pob dyn yn gyfrifol am y dalent neu y talentau a ym- ddiriedwyd iddo, ac y caiff pob un ei wobrwyo neu ei gospi yn ol y defnydd neu y camddefnydd a wnaeth o'r hyn a roddwyd iddo i farchnata ag ef. Canys ỳa beth bynag a hauo dyn, hyny hefyd a fed efe. Nid oes unrhyw ystyriaeth yn gosod mwy o bwys ar fywyd dyn na'i fod yn gyfrifol i Dduw. ' Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a ỳhob ỳeth dirgel, ỳa un bynag fyddo ai da ai drwg' Yr oedd 505—Ionawr, 1909.