Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

108 T OYFAILL EGLWYSIG. BYE GOFIANTAU. ELIZABBTH THOMAS, CWM, MONINGTON, PENFEO. ($j/\ ü farw y chwaer ddichlynaidd, dawel, a serchog uchod nos Fawrth, ät£ Mawrth 8fed, 1898, yn 67 oed. Yr oedd ei marwolaeth yn un sydyn (**> ac annysgwyliadwy iawn. Yr oedd yn addoli yn Eglwys Monington y Sul blaenorol, ac yn cyfranoçri o'r Cymmun Bendigaid yno, ac yr oedd yn ei hiechyd arferol ddyddiau Llun a Mawrth dilynol yn ol pob ym- ddangosiad, ond yrn min yr hwyr nos Fawrth ehedodd ei hysbryd ymaith i fyd yr ysbrydoedd yn sydyn iawn. Bu Mrs. Thomas yn dra ffyddlawn yn Eglwys Monington am flynyddau lawer, a bydd ei lle yn wag iawn yno. Y dydd Gwener canlynol claddwyd hi ym mynwent Eglwys Monington, pryd y daeth tyrfa barchus yng nghyd i dalu y gymmwynas olaf iddi. Gwein- yddwyd yn y tŷ gan y Parch. J. Myfenydd Morgan, ficer y plwyf, ac yn yr Eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. J. M. Morgan a'r Parch.|T. M. James, curad. Ar y Sul dilynol traddodwyd pregeth angladdol i'n diweddar chwaer gan y ficer yn Eglwys Monington, pryd yr oedd nifer luosog ò alarwyr ac ereill wedi ymgynnuíl. Mae i'r chwaer ymadawedig bedair o férched a dau o feibion i alaru ar ei hol, ond y maent bron i gyd wedi ymsefydlu mewn bywyd. Nawdd y Nef fyddo arnynt oll. Ffarwel bellach, chwaer gariadus, Gorphwys yn dy wely cudd Hyd y boreu gogoneddus Wawria draw ar blant y ffydd: Ti gei godi ar wedd dy Geidwad Mewn ieuengrwydd dwyfol wrid, Pan fo gwewyr adgyfodiad Yn cynbyríü'r fynwent í'ud.—J. M. Morgan. CALEB VOLK, NEVEBN. Y mae genym y gorchwyl galarus o gofnodi marwolaeth y brawd uchod, yr hyn a gymmerodd le ganol nos, lon 31, ar ol byr gystudd. Yt oedd Caleb Volk yn un o efeillion; enw y brawd arall oedd Josuah, yr hwn a fa farw pan ond dwy flwydd oed. Yr oedd y brawd ymadawedig uchod yn un a filwyr ffyddlonaf plwyf Nevern; bu yn gweithio yn ddiflino am flynyddoedd maith yn Eglwys Cilgwyn. Yr oedd yn Eglwyswr cydwybodol, hyddysg, a duwiol, ac yn hynod gysson yn y gwasanaethau dwyfol, yn enwedig yn yr Ysgol Sul. Ni chai pethau byehain nac amg.ylchiad.au bydol ei rwystro i fyned i'r cyssegr. Yn hyn yr oedd yn esampl i luaws o grefyddwyr Cymru yr oes bresennol. Claddwyd ei weddillion marwol yn hen fynwent y plwyf dydd Gwener, Chwef. 4, pryd y gwasanaethwyd gan y ficer, y Parch. J. O. Evans, a'r Parch. E. Bichards, curad Cilgwyn, ac yn y tŷ gan y Parch. D. Jenkyn E vans, ficer Pontfaen. Daeth nifer lluosog o berthynasau a chyfeillion yng nghyd o bell ac agos i dalu y gymmwynas olaf i'n brawd. MAEY DAVIES, LLWYNGEOES, GARTHELI. Galarus genym yw cofnodi marwolaeth y chwaer anwyl uchod, yr hyn a. gymmerodd le yn sydyn iawn prydnawn dydd Iau, Ion. 20, a chladdwyd hi y dydd Mawrth canlynol. Gweinyddwyd yn y tŷ a phregethwyd yn yr Eg- Iwys gan y ficer, y Parch. T. Davies, ar y testyn, ' 0 herwydd y rhai byw a, wyddant y byddant feirw,' Preg. ix. 5, yn darawiadol iawn ac yn ddylan- wadol. Ûawsai y chwaer ei blino gan y dropsi am flynyddau; drwy hyny cafodd ei hattal o foddion gras yn y blynyddoedd diweddaf. Ond ni fu neh