Skip to main content

YR ÀUSTRALYDD: EHIF. 18.] EHAGFYB, 1868. [CTF. II. GWYS O'R BYD YSBRYDOL. (Parhad o tudal. 398.) PENNOD V. Y Daith i Èxeter—T Ddinas—Y Brawdlys—Y Prawf yn troi yn erbyn y Carcharor. Yn disgwyl am danaf fi!" meddwn inau: "nis gwn pa fodd y gall hyny fod, gan na wyddai neb fy mod yn dyfod, ac yn wir nis gwyddwn fy hunan hyd------." Ond ymateliais, pan ar fin cyfaddef fy mod wedi cymeryd fy hudo gan lais: feallai, meddwyf ynof fy hunan, fod gan y cychwr ei hunan law yn y cast, a'i fod yn aWr am ymosod arnaf am groesi allan o amser. " Wel, Syr," atebai tywysog yr afon, gan droi ei gap dì-big y tu ol yn mlaen, yr hyn oedd ei arfer pan mewn dyryswch, ac yr oedd yn sicr yn arferiad mwy moesgar na'r un sydd gan ei frodyr ar y tir o grafu eu penau: " Wel, Syr," meddai, "y cwbl allaf fì ddweyd yw, fy mod wedi cael fy neffro tua haner awr wedi tri, neu rywbeth oddeutu hyny, gan gyfaill i chwi, yr hwn a ddywedodd wrthyf y byddai arnoch fý eisieu yn mhen ychydig ar y làn yma." "Pa gyfaill oedd hwnw ?" meddwn inau. a Yn wir, Syr, nis gallaf ddweyd dim ar y pen hwnw, oblegid ni welais ef, ond mi a'i clywais yn eithaf da pa fodd bynag, ac mor eglur ac yr ydwyf yn eich clywed chwithau yn awr. Yr oeddwn I yn cysgu pan y galwodd fi y tro cyntaf oddiallan acw, a phrin y medrwn wneud synwyr o hono; ond yr ail dro, yr oeddwn yn ddigon effro; a'r trydydd tro, fel yr oeddwn yn dadfachu y ffenestr i'w hagor, nid oedd modd camgymeryd ei eiriau, 'Byddwch yn barod i Philip Reaton ar y làn draw,' meddai." " A pha sut y bu i chwi fethu gweled fy nghyfaill ?" gofynais inau, gan ymddangoa mor ddidaro ag y gallaswn. " Wn I ddim," meddai yntau, "ond meddwl yr oeddwn mai mewn brys yr oedd i fyn'd yn ei ol, o achos gan gynted ag y clywodd fl yn agor y ffenestr, a gweled ei fod wedi fy neffro, cychwynodd i ffordd yn y fan. Yr oedd ei lais yn dod oddiwrth y gongl ddwyreiniol i'r tÿ, fel pe buasai yn myned hyd ffordd Exeter. Ni fuaswn I yn codi 3q