Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR AUSTRALYDD: BHIF. 15.] MEDI, 1868. [CYF. H. YB EGLWYS DBEFNUS. GAN T PABCH. BOBEBT ELLIS, CLWT Y BONT. (Parhad o tudal. 292.) Ee bod yn drefnus gyda gorchwylion eglwysig, at y pethau a nodwyd o'r blaen genym, mae yn ofynol fod yr holl gyfrifon yn cael eu cadw yn ofalus a threfnus. Mae cyfrifon eglwysig nianwl a chywir bellach yn cael edrych arnynt yn bethau pwysig, a hyny nid yn unig ar gyfrif y boddlonrwydd a roddant i'r lluaws, ond hefyd am eu bod yn egluro -ff eithìau. Wrth y cyfrifon y gwelir y cynydd neu y lleihad, ac hefyd pa fath yw sefyllfa eglwys o ran ei ffrwythlondeb. Gelwir haelioni crefyddol yn "ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chẁi." Mae "cyfrif " o'r "ffrwyth" hwn, gan hyny, yn cael ei gadw mewn lle goruchel, a gwneir sylw manwl a chyhoeddus o hono ar adeg hynod o ddifrifol. Ond bydd y cyfle i ffrwytho erbyn hyny wedi colli byth. Pa fodd y gall duwiolion crjntachlyd ddal y cyirif hwnw heb ias o gywilydd? Lled aflêr a diofal a fyddai llawer o'r hen dadau gynt gyda'u cyf- rifon. Byddai aml un o honynt yn rhoddi ymaith lawer mwy nag a dderbyniai. Nis gallent oddef y syniad fod achos eu Gwaredwr yn ddyledus iddynt hwy, ac feUy nid oeddynt yn rhyw ofalus iawn i wybod pa fodd y byddai pethau yn sefyll rhwng eu llaw ddehau a'u llaw aswy. Mae yn ofnus nad yw y cyfrifon yn cael eu cadw etto mewn llawer eglwys mor drefnus ag y byddai ddymunol. Ceir eu bod weithiau mor ddidrefn fel nad oes nçb ond y brawd sydd yn enw o ysgrifenydd yn gallu gwneud dim o honynt; ac ar rai adegau, gwelwýd y brodyr hyn yn gorfod puzzlo tipyn er deall eu gwaith eu hunain. Ond nid y brodyr sydd yn cadw y cyfrifon sydd bob amser i'w beio oherwydd y diftyg, maent hwy yn gwneud y goreu gallont—er na byddont yn ddynion anllythyrenog, etto yn fynych maent yn ddynion anflìgyrol, ys dywedir—^nid ydynt erioed wedi cael yr un fantais i ddeall pà fodd i gadw cyfrifon trefnus. Erbyn hyn, nid oes braidd i eglwys nad oes yn mhUth ei haelodau ryw frawd, hen neu ieuanc, cymhwys i gadw ei holl gyfrifon yn drefnus. ^.c os nad ä 3 G