Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR AUSTEALYDD: EHIE. 14.] AWST, 1868. [CYF. II. Staríftflta, ŴC. ADDOLIAD TEULUAIDD. GAN Y PABCHEDIG EDWAED J. GBIFFITHS, BALLABAT. Mae addoli Duw yn deuluaidd yn betli a esgeulusir gan lawer o ddynion da a duwiol: ac i geisio cyfiawnb.au eu hunain, dywedant nad oes un gorchymyn pendant yn y Beibl am ei gyflawni. Gwir: ni ddywedir mewn cynifer o eiriau, Gweddiwch gyda'ch teuluoedd; eto, gellir dangos ei bod yn ddyledswydd drwy resymau eglur a phendant. Y MAE T BERTHYNAS A FODOLA RHWNG EHIENI A'ü TEULUOEDD TN galw am addoliad teuluaidd. Ai nid yw pob penteulu yn gyfrifel i Dduw am lywodraethiad ei deulu ? Onid yw yn ddyledswydd arno i ymdrechu eu dwyn i fynu yn y fath fodd ag i'w parotoi nid yn unig i'r byd hwn, ond hefyd i'r hwn a ddaw—eu dwyn i fyny fel ag i wneud y goreu o'r ddau fyd? A pha fodd y gall eu hyfforddi yn mhethau crefydd (hyny yw, yn effeithiol ac addas) heb weddîo dros- tynt a chyda hwynt ? Cydnebydd pawb a broffesant eu hunain yn Gristionogion ei bod yn ddyledswydd arnynt i wasanaethu Duw yn mhob cylch y gallant; ac os yw, paham na wneir hyn drwy gadw addoliad teuluaidd. Y gallant ei wasanaethu yn y modd a nodwyd sydd sicr. Y mae natur dyn yn dysgu y rhesymoldeb o addoliad teuluaidd. Y mae wedi ei wneud gan ei Grëwr yn greadur cymdeithasol. Y mae arno ddyled fel creadur cymdeithasol i addoli Duw mewn cymdeithas, ac yn gyntaf yn y gymdeithas hòno yn yr hon y mae ganddo fwyaf o ddylanwad—os yn benteulu, yn ei deulu. Bwriadodd Duw i deulu- oedd fod yn nurseries i grefydd a duwioldeb, ac i hyn dylai fod ynddynt addoliad teuluaidd. Os teimla rhieni hyfrydwch mewn llafurio er diwallu anghenion tymhorol eu plant—os yn bryderus am eu cyrph, pa faint mwy pryderus y dylent fod am eu heneidiau ? Onid yw yr enaid yn llawer pwysicach a gwerthfawrocach na'r corph ? Pan yn edrych ar y mater yn y goleuni hwn, y mae dwyn rhesymau o blaid yr addoliad teuluaidd yn ymddangos yn beth diangenrheidiol hollol. Os nad oes genym orchymyn pendant yn y Beibl i gadw addoliad teuluaidd, y mae genym ddigon o enghreifftiau ynddo yn dangos fod dynion duwiol yn gwneud hyny. Byddai gan dduwiollon y Beibl eu haüorau teuluaidd. Dylynwn hanes Abraham, Isaae, a Jacob yn eu 3d