Skip to main content

YE AUSTRALYDD: EHIP. 11.] MAI, 1868. [CYF. II. SFrarfh^dau, ŵí. ♦— YR APOSTOL IOAN AR GARIAD. " Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casau ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd ? " Ymof- ynwn i'r rheswm a orwedd o dan y dybiaeth gynwysedig yn y geiriau dyfynedig. Fel meddyliwr dwfn a threiddgar, saif Ioan yn annghydmarol yn mhlith yr apostolion. Yr oedd Paul yn feddyliwr mawr, a mawr iawn hefyd—nid gwaith hawdd yw cael ei gyffelyb; eto, ni thynwn ddim oddiwrth ei fawredd ef, pe dy wedem fod Ioan yn un mwy. Fel ymresymwr, saif Paul ei hunan yn mhlith yr holl ysgrifenwyr ysbryd- oledig: er ei fod ef yn feddyliwr dwfn a chryf, eto nid yn yr ystyr hwn y rhagora. Er fod Ioan yn ymresymu yn gadarn ac anatebadwy, eto, fel meddyliwr y rhagora. Y mae un yn ymwneud â'r peth ei hun—dyna feddyliwr: ymwna y llall, gan mwyaf, a'r pa fodd i egluro y peth hwnw yn ei wahanoi gysylltiadau—dyna ymresymwr (logician). Pe cymerem olwg ar y ddau, gwelwn ynddynt gynnrychiolwyr medd- ylaeth yn ei chyfanswm. Cynnrychiola Ioan y meddyliwr, yr ym- deimladaeth a'r ymsyniadaeth ddofn hòno a ddechreua yn y galon o wirionedd yn ei natur, ei fywyd, a'i gysyiltiad cyntaf â phersonol- iaeth. Cynnrychiola Paul yr ymresymwr, yr ymdrech hòno a dde- chreua yn y deall a'r rheswm, i gymeryd gafael mewn gwirioneddau jfel egwyddorion cysylltiedig â'u gilydd, a sylfeini cyfundrefnau. A y cyntaf yn uniongyrchol at fywyd ei bwnc: cychwyna yr ail oddiwrth hyn íel ffaith sylfaenol, gan dynu ei gasgliadau, a'r casgliadau hyn ydynt yr athrawiaethau a ddysga. Ioan a Paul ydynt ddau gawr y byd meddyliol—^hwynthwy ydynt ei ddau representatŵe men—cyn- nrychiola un galon fawr, a'r llall feddwl cryf; a thyna ddau anhebgor y byd meddyliol. Y mae calon fach a meddyiiwr mawr yn wrth- ddywediad; y mae meddwl cryf a chalon fach yn ddieithr-beth i'r natur ddynol yn ei phurdeb a'i sefyllfa ddiwylliedig. Y galon ydyw ffynonell teimladau, a theimladau ydynt ddechrèuad gwybodaeth. Rhag i neb ein camddeaH, nodwn fod ein meddwl yn ymwneud â gwrthddrychau mewn dau gymeriad: yn 1. Ymwna & hwynt fel ffeithiau. Y mae dau a dau yn gwneud pedwar; y mae y ^ hwn yn fwy na'r un draw, &c. Dysgir ni fod « 28