Skip to main content

Y"K ATJSTRALYDD: <£$\t\)Ql&VI)ìt |StsioL RHIF. 10.] EBRILL, 1867. [CYF. I. OWEBSI I LENORION IEUAINGO. GWERS I. GWÁITH AC ANSODDAU BAEDD. T* I BA le bynag yr at\n, cawn fod barddoniaeth yn cael ei ystyried fel y ddysg uchaf. ac yn cael edrych arni gyda pharchedigaeth yn dynesu at yr hwn a delir gan ddyn i'r natur angelaidd. Er hyny llenwir fi a rhyfeddod, fod y beirdd henafiaethol, braidd yn mhob gwlad, yn cael eu hystyried yn oreu : pa un a yw hyn yn bod oherwydd fod pòb math arall o wybodaeth ac enìlliad yn cael eú cyr- haedd yn raddol, âc fod barddoniaeth yn ddawn yn cael ei rhoddi ar un waith; ynte eherwydd i farddoniaeth gyntaf pob cenedl eu synu fel newyddbeth, ac iddi, drwy gydsyniad, sicrhau y bri a dderbyniodd ar y cyntaf drwy ddamwain; neu pa un a yw hyn oherwydd mai swydd barddoniaeth yw darlunio natur a nwyd, y rhai ydynt bob amser yn ddigylnewid, acddarfod i'r ysgrifenwyr cyn- taf gymeryd meddiant o'r gwrthrychau mwyaf tarawiadol i'w darlunio, y dygwyddiadau mwyaf tebygol i'w ffugîo, ac na adawsant i'r rhai a'u dilynent, ddim ond adsgrif- iadau o*r un digwyddiadau, a chyfluniadau newyddion o'r un delweddau. Pa beth bynag yw y rheswm, sylwir yn gyffredin, fòd natur yn meddiant yr ysgrifenwyr henafol, a chelfyddyd gan eu dilynwyr: fod y rhai cyntaf yn rha- gori mewn nerth a dyfais, a'r rhai diweddaf mewn tlysni