Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

©SlcfjgratDii |Eigol. — .... . ,1 , , , . „. EHIF. 6.] RAGFYR, 1866. [CYF. I. TREFN Y BYD NATURIOL, AC ANNHREFN Y BYD MOESOL. Y mae yn ffaith hynod o boblogaidd, fod y byd naturiol yn gweithredu wrth reolau perffaith, a phob peth yn ateb ei ddibyn ei hunan. Os ystyriwn y bodau aneirif sydd yn crogi yn yr eang- der anamgyffredadwy; y maent oll yn gwneud eu teithi yn rheolaidd, heb y tuedd lleiaf i atal cylehrediad y naill y llall. Pob tymor yn ei bryd, ers miloedd o flynydd- oedd, (haf a gauaf, &c.) Nid yn unig y mae pethau mawrion a phwysig yn y byd naturiol yn cadw trefn a chysondeb, ond y mae y creaduriaid bychain, a dinod, yn gwneud, ac yn dwyn eu holl weithion wrth reolau diwyrni. Os edrychwn ar ad- ar y llwyn, maent hwy yn adeiladu, symud, ac yn lluos- ogi yn ol deddfau eu natur. " Y morgrug, er nad ydynt bobl." eto y maent yn cadw at drefn yn eu holl ymdra- fodaeth. Gallwn nodi y corynod, y gwenyn, &c. Gellir dyweud fod hyd yn oed yr abwydyn lleiaf, hyd at y behemoth, ac or gronyn lleiaf, hyd at yr haul mawr, sydd yn codi bob bore, " ac yn dyfod allan fel gwr priod o*i ystafell, ai fel cawr i redeg gyrfa." A pha.fwyaf y syllom ar drefn natur, yn ei gwahanol symudiadau, mwyaf oll a welwn o gysondeb a threfh megis wedi eu hargraffu ar bob rhan o honL |