Skip to main content

YK AIS8TEALYDD: (ÍBUIjíjratDtt |Et$ol. RHIF. 5.] TACHWEDD, 1866. [CYF. I. PA UN SYDD YN COSTIO MWYAF: CYNNAL YE EFENGYL NETJ YNTE GWNEUTHUR HEBDDI ? Mae yn gamgymeriad mawr fod cynnulleidfáoedd bychain yn analluog i gynnal yr efengyl, pan mai y gwir yw, nad oes un gynnulleidfa yn medru gwneuthur heb yr efengyl; o herwydd mae treth yr amddifadrwydd yn bedair gwaith mwy na'r dreth sydd yn anghenrheiddiol i gynnal sefydl- iadau crefydd. Nid ífugchwedl mo hyn. Ewch i'r manau hyny lle ,yr oeddent yn eu barnu eu hunain yn analluog i gynnal yr efengyl: ewch at rieni a gofynwch pa faint a werir gan eu plant afradlawn eu hunaén, heblaw eu bod yn tori eu calonau hwy trwy eu hymddygiad anufudd: ewch i'r dafarn ar y Sabbath ac ar ddyädiau yr wythnos: dilynwch y ífeiriau, y rhedegfèydd ceffyllau, a'r nosweithiau llawen : sylwch ar y tai llymion, budron, a'r ffenestri drylliog, gyda y plant carpiog a difoes,—ac yna dychwelwch i'ch paradwys bach eich hun, a phender- fynwch pa un a alltudiwch chwi yr efengyl fel peth rhy gostus i'w chynnal ai ni wnewch. Os ydych yn rhy dlodion i gynnal yr efengyl, yr ydych yn wir yn rhy dlod- ion i allu gwneuthur hebddi. Os gwnai y naill wasgu yn drwm arnoch, fe wnai y llall eich malu yn chwilfriw. Gall ychydig deuluoedd lwyddo mewn lle anghrefyddol, ond gwnânt hyny trwy fyw ar fe'iau y lleill; bydd y rhan fwyaf yn dlodion, yn anwybodus, ac yn ddrwg eu gweith- redoedd.