Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

.' \ ;' YR AUSTRALYBB: EHIF. 12.] EHAGFYE, 1869. [CYF. III. (feáWatí, ŵr. A YW YR EGLWYS YN ALLU YN Y BYD ? Nro yr eglwys mewn unrhyw gyfnod sydcl wedi bod arni, nac ychwaith mewn unrhyw gyfnod ag sydd yn ei haros a olygwn; ond fel y mae hi yn y dyddiau hyn, yn y ffurf bresenol sydd arni. Nid ydym chwaith yn golygu yr eglwys gyda'r enwad hwn neu arall o broffeswyr, ond eglwys Dduw pa le bynag y ceir hi. Nid ydym mor gul a rhagfarnllyd ein syniadau fel y tybiwn am funud nad oes gan Dduw egl wys yn mysg pob enwad o Gristionogion a ystyrir yn uniongred. Efallai y caniateir i ni ddweyd, wrth gychwyn hyn o ymchwiliad, na raid i'r darllenydd betruso dim rhag mai llen-ladrad yw ein hysgrif, oblegid nid ydym yn bwriadu myned i faes neb i ehwilio am aduoddau, ond i'r un hwnw ag sydd yn agored i bawb—yr Ysgrythyrau Santaidd. Caiff yr hyn a ddywedir genym ar y mater fod yn ff rwyth myfyrdod yn y gwirionedd santaidd, yn nghydag ymdrech i edrych i mewn i ansawdd yr eglwys yn y dyddiau hyn, "Profweh bob peth: deliwch yr hyn sydd dda," ydyw y rheol ysgrythyrol; a dyma a amcenir ato yn hyn o ysgrif, ac os llwyddir i wneud y daioni lleiaf ystyriwn hyny yn ddigon o dâl am unrhyw ymdrech o'n heiddo. "Beth yw yr ûs wrth y gwenith ? medd yr Arglwydd." Y mae yn amlwg, gan hyny, fod yma ûs yn gystal a gwenith ar y llawrdyrnu; ae er nací ydym yn teimlo llawer o barodrwydd na medr i ymwneud â'r pwnc yma yn y wedd ag y mae wedi ei osod i lawr genym, etto teimlwn gymelliad i wneud ein goreu yn y ffordd a fwriadwn ei thra- faelu. A chan ein bod yn bwriadu ymgadw ar dir ysgrythyrol, ae na fydd dùn a wnelom â phersonau ond â'u beiau, yr yclym yn gobeithio i ryw fesur na bydd ein hymdrech yn gwbl ofer. "Beth yw yr ûa wrth y gwenith ?" Os oes yma ûs ar y llawrciyrnu (yr eglwys), y mae yma wenith hefyd. Oes, i Dduw y byddo'r clod: er cymaint o ffaeleddau sydd yn yr eglwys y dyddiau presenol, y mae yma rin- weddau hefyd; os oes yma sorod, y mae yma berlau hefyd, ond perlau heb eu cwbì gaboli ydynt hyd yn hyn: " Anwylyd, yr awrhon meibion i Dduw ydyru, ac nid amlygwyd etto beth a fyddwn." Dyma fydd ein gwaith yn bresenol—ar un llaw ceisiwn ddangos harddwch a godiclogrwydd y perlau, neu rinweddau eglwys Dcluw; ac ar y llaw arall, ceisiwn ddangos anharcldwch ei sorod ahacrwch ei phechodau. Beth! ai gwirionedd yw, Seion, fod yuot ti bechodau ? Ië, eithaf 2l