Skip to main content

H %* Uö îö YR AUSTRALYDD: RHIF. 8.] AWST, 1869. [CYI\ III. íintáîtcrta, &C. GWEDDNEWIDIAD YE ARGLWYDD IESU. GAN Y PARCH. B. T. MILES. Rhan ii.—yb, hyn a welodd y DYSGYBLION. Y bywtd rhyfeddaf a glywyd son am dano erioed oedd bywyd y Rhyfeddol. Dywed Esaiah am dano, " Dirmygedig yw, a diystyraf o'r gwỳr; gwr gofidus, a chynefin â dolur," Esa. liii. 3; ond nid oedd bob amser felly. Gwir iddo ddyoddef yn anad neb—ychydig wyddom am angerddoldeb dyoddefiadau y Duw-ddyn: ond er cymaint ei ddyoddef- iadau ymddangosodd ar brydiau uwchlaw " gwr gofidus a chynefin â dolur." Yr oedd mawredd ei berson gogoneddus yn dangos fod rhyw- beth ynddo yn anad neb dynion. Pan anwyd ef yn Methlehem Judea, yr oedd llu o angelion disglaer " yn moliannu Duw," gan ddywedyd, " Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddyn- ion ewylìys da," Luc ii. 14: a doethion a ddaethant o'r dwyrain i'w addoli ef, Mat. ii. 1, 2. Pan fedyddiwyd ef gan Ioan, daeth "llef o'r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm bodd- lonwyd." Pan demtiwyd ef yn yr anialwch, "angelion a ddaethant ac a weiniasant iddo," Mat. iv. 11. A phan erlidiwyd ef gan ei elyn- ion—yn " dclirmygedig a diystyraf o'r gwyr "—yn cael ei amgylchynu gan "bysgodwyr môr Galilea" gweddnewidiwyd ef gerbron y dysg- yblion. Er cymaint oedd ei dywydd garw, cafodd (goddefwch yr ymadrodd) ambell ysgafnhad i'w feddwl a hyfrydwch wrth gym- deithasu â'i Dad. Beth wyddom ni am y nosweithiau a dreuliodd mewn unigrwydd ar y mynydd i wedd'io, a chymdeithasu feallai âg Abraham, Isaac, Jacob, Moses, Elias, y patrieirch duwiol, a'r angelion glân, gan ymbyncio ar y pethau mawrion oeddynt yn fuan i gymeryd lle: ni allwn ni ei ddylyn ef i'r dirgel fanau hyn; mae y curtain megis yn cael ei ostwng ar ei ol, a rhaid i rilnau sei'yll y tuallan. Ond pan yr oedd ar fynycíd y gweddnewidiad cafodd y curtain ei godi i fynu ychydig, fel y caem gipolwg ar ogoniant y Gwaredwr mawr. Pa fodd y gallwn ddeall y pethau hyn heb i ni gredu fod Crist yn Dduw ac yn ddyn? Y mae'r cyfan yn dywyllwch caddugawl, os nad ystyriwn Grist yn Fab Duw. Tebyg fod y daith i fynu i'r mynydd wedi cymeryd cryn dipyn o