Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NP^ YR ATJSTRALYDD: EHIE. 6.] MEHEEIN, 1869. [CTE. III. Ìhmtîwáw, ŵí. LLWGR-WOBEWYAETH. Bbth yw llwgr-wobrwyaeth ? "Y mae gan bob dyn ei werth," mecldai Walpole. Arian yw gwerth un, canmoliaeth yw gwerth y llall, mwynhau manteision a breintiau yw gwerth y trydydd, dylan- wad ac awdurdod yw gwerth y pedwerydd, esmwythyd a moethau yw gwerth y pumed, pleser a difyrwch yw gwerth y chweched, gwen- iaith yw gwerth y seithfed, &c, &c. Llwgr-wobrwyir heblaw âg arian—gwertha dynion eu cydwybodau a'u gwlad am bris gwahanol yn ei natur i'r pris a gafodd Judas Iscariot am ei Arglwydd. Ymwrthodwn â syniad Walpole: y mae ynddo lawer o wir, ond gwir wedi ei gamgyfleu ydyw. Yn hytrach, dywedwn y gwertha dynion eu hunain am wahanol brisiati; ond credwn er hyny fod rhai nas gellir eu prynu am unrhyw bris, ond y maent yn anaml mewn cyd- mariaeth. Clywsom lawer yn ddiweddar am Iwgr-wobrwyaeth. Hynod y wyneb santeiddiol a wnai rhai pan yn condemnio y fath ddrwg cywil- yddus. Hynocì yr egni a ddangosent i ladd dynion wedi marw yn ol eu golygiadau hwy; ac nid oes a fynom yma ac ameu cywirdeb eu golygiadau, er hwyrach fod lle i ameu cywirdeb eu dybenion mewn rhai engreifEtiau. Ddarllenydd, a feddyliaist ti erioed fod profi llwgr-wobrwyaeth yn erbyn dyn yn un o'r pethau mwyaf anhawdd yn holl gylch troseddau ? Etto, erbyn ystyried, y mae y drwg hwn yn un o'r rhai mwyai' cyffredin yn holl gylchoetìd cymdeithas—gwobr anwiredd. Dychy- mygaf weled llawer yn ftromi a ffrochi yn aruthr at y fath syniad: '" Pa beth ? derbyn gwobr anwiredd yn un o ddrygau mwyaf cyff redinol cymdeithas ! nid yw y dyn a faidd ddweyd y fath beth yn deilwng o gael ei gydnabod yn aelod o gymdeithas." Hwyrach nad ydyw. "Y fath gabldraeth!" Beth yw " derbyn enllib yn erbyn dy gymydog," ond derbyn gwobr anwiredd ? Beth yw dweyd gwir diangenrhaid a'm ein gilydd ond cynyg at lygru meddyliau y naill tuag at y llall. Hynod y twrw a wneir os bydd i greadur tlawd ac anghenus syrthio yn aberth i demtasiwn; ond yr hyn sydd yn rhyfedd yw fod gwled- ydd a chymdeithas yn cymeryd eu dallu a'u llwgr-wobrwyo yn aml. Wrth edrych ar bethau o un eyfeirbwynt, byddwn braidd a dyfod i'r