Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ìtfiftM YR AUSTRALYDD: EHIF. 3.] MAWETH, 1869. [CTF. III. "ODID ELW HEB ANTUR." (Parhad o tudal, 29.) Cymerwn olwg ar y testun yn ei berthynas â'n gwlad fabwysiedig. Eel y crybwyllwyd yn barod, nid ydym yn tybio fod gwlad tan haul lle mae athrawiaeth ein testun yn cael ei chredu mor gyífredinol a thrwyadl; a cheir fod ein cenedl yr ochr hon i'r cyhydedd yn meddu ar yr ysbryd anturiaethus i raddau Ued ddymunol, a dyma yr ysbryd a'u cynhyrfodd ac a'u dygodd i'r wlad hon. Bendith fawr i'r byd yw yr ysbryd hwn a blanwyd yn ein natur gan y Creawdwr anfeidrol ddoeth. Oni buasai am y teimlad hwn yn ei wahanol ffurfìau, buasai y byd yn aros byth mewn sefyllfa anwaraidd—buasai y naill genedl yu ddieithr i'r llall, ac ni buasai dim teilwng o'r enw masnach yn bodoli: mewn gair, ychydig fuasai dyn uwchlaw yr anifail a ddyfethir. Wrth edrych i hanes y wlad hon, o'i darganfyddiad hyd yn awr, gellir dweyd mai anturiaethau sydd wedi rhoddi bodolaeth iddi. Oni buasai am yr ysbryd anturiaethus, buasai y trefedigaethau Australaidd yn ddiffeithwch gwyllt; a chawsai yr anwariaid duon brodorol berffaith lonyddwch i fwynhau y gwledydd toreithiog yn eu dull anifeilaidd eu hunain—buasai y tunclli aur gafwyd yma yn gorwedd byth yn farw a than gloion yn nghoffrau mawrion natur. Md felly y mynai y Cre- awdwr doeth iddi fod: y mae wedi cuddio y trysorau, ac wedi cynys- gaeddu dyn â galluoedd meddyliol a chorphorol i chwilio am danynt. Rhoddodd ddeddfaii i'r meddwl, a deddfau i bob peth y mae y meddwl yn gweithredu arnynt; ac yn ol ei ymchwil i, a'i wybodaeth am ddeddfau y mae dyn yn deall ac yn barnu hyn a'r llall. Pwy yn y byd nad oes ynddo ddymuniad am fod mewn sefyllfa uwch na'r un y mae ynddi, pa mor uchel bynag ?—y mae hynyna yn ffaith ddieithriad; ond ffaith arall mor amlwg yw, na chyraeddodd neb eithaf ei ddymuniad ar y pen hwn: y mae rhywbeth yn ein natur yn gwaeddi, "Moes, moes," yn barhaus. Y dymuniad hwn yw y gallu sydd yn rhoddi ysgogiad i'r ysbryd anturiaethusj. ymgyraedd am elw personol. Er mai elw personol yw y prif gyfeirnod, gwelir yn aml wg fod anturiaethau personol yn dwyn oddiamgylch elw cymdeitííasol. Pan y bydd person unigol neu gwmni yn ymgymeryd âg anturiaeth o bwys, y mae yr anturiaeth hòno yn rhwym o effeithio i ryw raddau