Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

íà A.USTRALYDD. 51 BHEOLAU MOESG-AEWCH. (Ällan oV Moes-Lyfr.) Y MODD I YMDDWYN MEWN ADDOLDY. Myned i Addoldy.—" Gwylia ar dy droed pan íýddech yn înyned i dy Dduw." Byddwch ofalus i ddyfod i mewn erbyn yr amser gosodedig. Os bydd y byd a chrefydd yn ymddangos fel yn erbyn eu gilydd ar y pryd, cofiwch mai y byd ac nid crefydd a ddylai ildio. Peidiwch byth a myned i addoldy heb dynu eich het ar eich mynediad trwy y drws; ac na eisteddwch heb yn gyntaf wneuthur ymgrymiad ar eich gliniau, neu ryw agwedd arall, i ddangos eich cydnabyddiaeth o santeiddrwydd. y lle ac o fawredd y gwrthddrych ag y daethoch i'w addoli. Cerddwch yn arafaidd i'ch lle, heb drystio a'ch traed, yn enwedig os bydd y wasanaeth Wedi dechreu, fel na rwystroch y gynnulleidfa i glywed yr hyn a leferir, ac na thynoch eu sylw oddiwrth yr hyn a glywant at eich gwendidau chwi. Anfoneddigaidd iawn yw myned i dy addoliad heb ymolchi ac ymlanhau—y wyneb a'r dwylaw yn fudron, a'r wisg yn aflerw, budr, a gwaelach nag y byddai raid iddi. Hefyd, ni ddylid myned i mewn heb lanhau y traed, yn enwedig os bydd yr hîn yn wlyb a'r fíyrdd yn fudron. (Tio barhau.) Agioedd mewn Addoldy.—"Fel y gwypech pa fodd y mae yn rhaid i ti ymddwyn yn nhy Dduw." Dylid bod yn ofalus i gydymfíurfio a'r gynulleidfa yn mhob rhan o'r gwasanaeth. Os gweddio y bydd y gynulleidfa dylid penlinio gyda hwy; neu os canu, coder ar y traed a chydganer â hwy: ni all esgeuluso cydymffurfio yn y gan fod yn gymeradwy. N"a fydded i chwi un amser eistedd i lawer cyn gorphen canu, oni bydd rhyw wendid yn galw am hyny. Y mae bywiogrwydd meddwl yn angenrheidiol mewn ty- addoliad. Y mae cysgu mewn addoliad yn ymddygiad pecha- durus a gwrthun i'r eithaf: dylid gochel pob peth tebyg i hyny, megys rhoddi y pen rhwng y gliniau, ei roddi i bwyso ar ymyl y sêt neu y fainc. Dengys y fath ymddygiadau y diofalwch mwyaf am weinidogaeth yr efengyl a moddion gras, a bod y dyben yn dyfod iddynt yn llawer îs nag a ddylai fod. Bydded y Uygaid yn agored a bywiog ar y Gweinidog tra yn darllen ac yn pregethu, ac ymdrecher i gadw y meddwl a'r corph yn efí'ro a siriol, a bycld hyn yn gymhorth icldo i lefaru