Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dfgftíll #|tìüg»m Deoniaeth Llanbadarn Fawr. LLANFIHANGEL Y CREUDDYN. Marwolaethau.—Mae yn ddrwg genym gofnodi marwolaeth an- nysgwyliadwy David Pugh, mab i Mrs. Jane Pugh, Cnwch, yr hyn a gymmerodd leoddeutu dau o'r gloch boreu dydd Sadwrn, Mai 15, yn 14 oed; a phe cai fyw ryw dair wythnos yn rhagor, byddai yn 15 mlwydd oed. Yr oedd pawb yn boff iawn o'r ymadawedig, gan ei fod mor siriol, ufudd, a gostyngedig. Yr oedd mewn gwasan- aeth yn ardal Trisant, a chafodd ddamwain wrth yru cert prydnawn dydd Mercher, Mai 12, yr hyn a fu yn achlysur i'w farwolaeth y dydd Sadwrn canlynol. Yr ydym yn cydymdeimlo yn ddwys â'i fam yn ei hamddifadiad sydyn o'i mab henaf, ar yr hwn yr oedd yn edrych ym mlaen yn hyderus am gynnortbwy amserol. Mae troion o'r fath yn edrych yn dywyll i ni, ond nid ein meddyliau ni yw meddyliau yr Arglwydd. Mae pobpeth yn cydweithio er daioni ganddo Ef. Claddwyd yr hyn oedd farwol o hono ym mynwent Eglwys Llanfihangel y Creuddyn prydnawn dydd Mercher, Mai 21, y Parch. W. J. Williams, ficer Llanafan, yn gweinyddu. Bu farw, dydd Mawrth, Mehefin 1, William, mab Mr. John Evans, Rhosygorlan, yn 28 mlwydd oed, ac a gladdwyd ym myn- went Eglwys Llanfihangel y Creuddyn prydnawn dydd Sadwrn, Mehefin 5, y Parch. J. P. Evans yn gweinyddu. Pwnc.—Adroddodd Ysgol Sul Llanfihangel y Creuddyn y bum- med bennod o'r Barnwyr yn bwnc yn yr Eglwys nos Sul, Mehefin 13, y ficer yn holi, a chafodd atebion boddhaol. Sul y Jubili,—-Cynnaliwyd gwasanaethau arbenig o ddiolchgar- wch yn Eglwys Llanfíhangel y Creuddyn ar Sul y Jubili, Mehefin 20. Yr oedd y Gwasanaeth boreuol yn dechreu am 10 a'r hwyrol am hanner awr wedi chwech. Gweinyddwyd y Cymmun Bendigaid ar ol y gwasanaeth boreuol. Darllenwyd y Llithiau yn y borea gan Mr. William Morgan Wright, Post Óffice. Canwyd yn ystod y dydd emyn y Jubili o waith y Parch. E. James Evans, ficer Chirk, 4 Duw gadwo'r Frenines,' yng nghyd ag emynau tarawiadol o Hymnau yr Eglwys, a gwnawd casgliad ar ol y gwasanaetb.au tuag at Drysorfa y Bywoliaethau bychain yn Esgobaeth Tŷ Ddewi. Pregethodd y Parch. J. P. Evans ddwy bregeth hynod bwrpasol ar yr achlysur. Canwyd hefyd yn yr Ysgol Sul yn y prydnawn yr Anthem Genedlaethol yng nghyd ag hymnau cyfaddas.