Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEREN ORLLEWINOL. > ì -, ." Uyf- XXIII] RHAGFYR, 1866. [Rhif. 29. CYNYDD. Y mae cynydd yn ddeddf bodolaeth. Y mae pob peth yn y bydysawd ond Duw eî hun yn ddarostyngedig i'r ddeddf oruchel a bendigedig hon. Gallem ddwyn eng- rheifftiau o bob ran o'r greadigaeth o na- tur pob gwrthddrych a chreadur, ac o bob dadblygiad rhagluniaethol, er piofi y gos- odiad hwn pe bai angen. Y mae daeareg, llenyddiaeth, gwyddoniaeth, arddansodd- iaeth, astronomyddiaeth a duwinyddiaeth, yn HaÄm profion o hyn. Nid mewn un di- wrnod y crewyd y byd ; nid mewn un mis na blwyddyn y tyfodd y llysiau a'r coed- wigoedd; nid mewn un oes y perffeithiwyd y celfyddydau, ac y trefnwyd y gwyddon- au: nid mewn milflwydd y darganfyddir, y penderfynir, ac y meistrolir athroniaeth y meddwl; ac nid mewn dwy fil o flynydd- oedd y darganfyddwyd yr oll sydd yn y Bibl. Yn raddol iawn y cyflawnwyd yr holl bethau hyn. Gwnawd darganfyddiad ar ol darganfyddiad ; dymchwelwyd cyfun- draeth ar ol cyfundraeth ytr.yr holl gelfau a'r gwyddonau cyn dyfod o hyd i'r gwir- ionedd. Trwy gynydd graddol, anwrth- wynebol a diorphwys y dychwelwyd y byd i'w sefyllfa bresennol mewn ystyr ddaear- egol, celfyddydol a chrefyddol. Bu llaw- er cynhwrf chwyldroadol yn mherfeddion yr hen ddaear yma cyn i'w chraenen bre- sennol gael ei ffurfio, ac iddi ddyfod yn lle cyfaddas i ddyn i breswylio arni. Aeth cannoedd o filoedd o flynyddau heibio tra y bu Duw yn dwyn ein daear ni i'w ffurf bresennol. " Yn y dechreuad " y creodd Ddw y byd; ond ni wyddom ni pa bryd oedd y dechreuad. Yr oedd yn mhell I iawn yn ol, fel y dengys darganfyddiadau } celfyddyd ; ond nid oedd yn dragywyddol. Yr oedd iddi ddechreuad. Derbyniodd ei bodolaeth oddiwrth Dduw. T creodd Duw y byd. Er mor hened ydyw y ddaear, y mae crefydd yn henach. Efeogyl dragywydd- ol yw'r efengyl; etholedigaeth dragywydd- ol yw'r etholedigaeth; Gwaredwr tragy- wyddol ydyw ein Gwaredwr, yr"Hwua ragordeiniwyd cyn sylfeini'r byd, eithr. a eglurwyd yn yr amser diweddaf er eich mwyn chwi." 1 Pedr 1. 20. A bywyd ragywyddol ydyw bywyd crefydd. "Wele €rr. XXIII 34 yr wyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywydd- ol, ac ni chyfergollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm Uaw i." Fel ag yr oedd crefydd yn bod cyn creaä ybyd.felly hefyd y bydd iddi barhau ar 61 dinystriad y byd; hyny yw, ar ol i'r ddaear fyned trwy gyfnewidiad tanllyd, nes ei phuro oddiwrth ei holl lygredigaeth; oblegyd ni ddiddimir y byd yn dragywyddol. Nid oes y fath athrawiaeth yn cael ei dysgu yn y Beibl. Gwir ydyw y dinystrir ei ffurf bre- sennol. Oyfnewidir mewn ystyr fferyllawl trwy dâu ei oll elfenau, a symudir trwy danchwa ofnadwy ei halogrwydd ; a bydd puredigaeth ei awyrgylch er roddi lle i ufelau purach a rhagorach na y rhai sydd yn cyfansoddi ei awyrgylch bresennol; ac yna, allan o weddillion ein hen fyd mater- ol ni, y dug Duw " nefoedd newydd a daear newydd," yn mha rai y preswylia cyfiawn- der a santeiddrwydd byth bythoedd. Nid oes dim yn anghyjfredin yn byn, pan ystyrioin ni drefn Duw o weithredu. î mae efe wedi dinystrio y ddaear lawer gwaith o'r blaen, ac wedi creu agwedd newydd iddi, dro ar ol tro, ac wedi ei phoblogi â chreaduriaid yn cyfateb mewn pob ystyr i'w ffurf a'i hinsawdd, fel y gwel- ir wrth y "fossüs" daearegawl a gloddir allan o'r gwahanol haenau sydd yn y ddae- ar. Y mae yn rhesymol meddwl y bydd i Dduw barhau i weithredu yn yr un modd. ag y mae celfyddyd, datguddiad a phrof- iad yn dangos i ni ei fod wedi bod ym gweithreda o'r dechreuad. Yr ydym yn rhwym o gredu hyn nes y cawn ddatgnddT iad yn dangos i'r gwrthwyneb. Cynydd ydyw arwyddair yr Hollalluog mewn creu, achub a gogoneddu. Yn raddol y dadblygwyd rhyfeddodau y brynedigaeth o'r oes batriarchaidd hyd amser y ddeddf, tan y ddeddf, yn oes y proffwydi, yn ngweinidogaeth Ioan Fed- yddiwr, yn ngweinidogaeth Iesu—cyn y gweddnewidiad, wedi y gweddnewidiad— hyd y croeshoeliad; wedi'r adgyfodiad hyd ddysgyniad yr Ysbryd Glân, ae o ddys- gyniad yr Ysbryd Glân hyd ddiwedd yr oes apostolaidd. Yn raddola chynyddol y bu Duw yn datguddio yr hyn " bethau oeddynt yn guddiedig er ys oesoedd a chenedlaethau" am yr Iesu i'w blant a'i eglwys. Y mae pob gorucbwyliaeth gre- fyddol ag y mae Duw wedi éi rhoddi i'r