Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEREN OELLEWINOL. Cyf- XXIII.] HYDREF, 1866. Ruw. 286. BURMAH A'I CREFYDD. Nid aDnyddorol feddyliwn fydd ychydig 0 hanes y wlad yn mha im y treuliodd yr eQwog Judson ei íÿwyd .cenadol a'i chre- fydd. BURMAH. Cychwynir yr ymerodraeth eanghonyn ^gleddol gan Assam Uchaf a thiriogaeth Nagos ; yn Ddwyreinio! gan dalaeth Chiu- jaidd Yun-nun a gwlad Laos; yn Orllew- ÌQol, Munipoor ac Anacan ; ac yn Dde- heuol gan Gul-for Bengal a Llyngclyn Martaban. Cyfrifir ei hyd yn 950 o fiil- diroedd, gyda lled ar gyfartaledd o 220 o filldiroedd, a'i gwyneb-fesur yn 254,000 o filltiroedd ysgwar. Ei hinsawdd :—O fis Medi i Mawrth y mae'r tywydd yn hyfryd tawn a'r gwres yn gymmedrol; ond yn Ëbrill a Mai y mae'r gwres yn ormodol *.c yn annyoddefol; ac yn parhau felly hyd ddechreuad y ^tywydd gwlawog. Mae ei hinsawdd, ar y cwbl, yn iachusol iawn i'r hrodorion, ac yn effeithio yn ddaionus ar gynhyrchion y wlad, yr unrhyw a chyn- ^yrchion India. Poblogaeth, 4,000,000. Ava yw prif-ddinas yr ymerodraeth, yr ^on sydd yn gorwedd ar lan aswy yr Irra- Wady. Poblogaeth, 30,000. Rangoon yw prif borthladd Burmah, yn Sorwedd ar lan yr afon Irrawady, oddeutu 30 milltir o'r môr. Ei phoblogaeth sydd «msicr, ond barna rhai ei bod yn cynnwys 20,000. Distrywiwyd y lle hwn ddwy waith gan dân. Tua'r flwyddyn 1825, parodd uchelgais a hunanoldeb y Burmaniaid i ryfel dori allan íhyngddyot a Phrydain, trwy iddynt ddar- ostwng Assam' a bygwth gallu milwrol Prydain Fawr yn yr India. Parhaodd y %fel ddwy flynedd, pryd eu llwryr orch- a.c y cymerwyd Rangoon oddi arnyot, ac y rhoddasant Assam i fyny. Rhoddwyd y gyntaf yn ol yn mhen dwy flynedd, ond y mae y Uall dan lywodraeth Lloegr hyd y i dydd hwn. Costiodd y rhyfel i Loegr tuag wyth miliwn o bunnau, heblaw y can- üoedd gwroniaid a syrthiasant; ac ni ofyn- odd y llywodraeth ond am un filiwn o iawn ganddynt. Enw ymerodrol yr ym- ^rawdwr yw Boa ; ac y mae ganddo allu hunan-ymddibynolar fywyd a marwolaeth. ^ywedir nad oes un Uys yn y Dwyrain yn €rr.. ■XXIII. 28 cael ei ddwyn yn mlaen mor reolaidd a llys Burmah, yn y fath ogouiant, a chyda threfn dda heb ddim gwastraff; yn lliosog, ond heb ddim afreolaeth. CREFYDD Y WLAD. Budhistiaeth yw crefydd y wlad, yr hon a broffesir gan tua 269,000,000 o'r hil ddynol yn Bnrmah, China, Tartary, Cey- lon, &c; ac o holí au-grefyddau y byd y mae hon wedi gwreiddio yn ddyfìaaeh na'r un o honynt yn y gwledydd paganaidd- Cafodd y gyfandraeth goel-grefyddol hon ei dechreuad gan un Cotama. Budha, yr hwn a aned yn agos i Nepaul, (India) 624 cýn Crist. Haera ei edmygwyr iddo ddy- wedyd cyn gynted ag y cafodd ei eni, "Myíi yw y mwyaf dyrchafedig yn y byd ; myfi yw y penaf-ac y ddaer, a'r mwyaf ar- dderchog; hon yw fy ngenedigaeth ddí- weddaf, ac nid oes i mi fodolaeth arall." Yn Burmah, adeiledir temlaa gwychfawr a chostus er anrhydedd i Budha ; a rboddir delw o h©no ynddynt, yn mha rai yr ar- ddangosir ef fel dyn ieuanc, deg troedferdd ar hugain o uchder, yn eistedd a'i liniau yn groesion, ei law ddeheu yn gorphwys ar ei forddwyd ddeheu, a'i law aswy ar ei lîts. Dywedir iddo deithio trwy wahanol barth- au India, fod ol ei droed ar graig yn Cey- lon, y byddai yn tala ymweliadau â'r trig- fanau wybrenol ac mai yn Benares, prifddi- nas talaeth o'r un enw, yn India, y cartrefai yn fwyaf neillduoh Ue y cyhoeddodd ei egwyddorion yn nghiyw miloedd o wran- dawyr. Y mae y chwedieuon, yn nghyd a'r hyn oll à briodolir i Budha, yn anhy- goel; er hyny 'cannoedd o filiynau a'i cydnebydd fel duw, ac a'i haddolant fel y cyfryw. Budhistiaeth a wahardda dditî- ystrio bywyd anifaiì, lladrad, godineb, cel- wydd, meddwdod, balchder a gwledd- oedd ; a chan belled a hyuy cafwyd peth daioni ynddi. Bu Budha farw C. C.543, yn 80 mlwydd oed; ond ei gyfundraeth sydd eto yn fyw; eithr hithau hefyd a fydd marw, ac a ddiflana fel tywyllwch o flaen goleuni yr efengyl a bregethodd Dr. Judson yn Bnrmah ; ac a bregethir yno eto gan genadon fifyddlon gyda llwyddiant mawr. Pwy na ddymunai weled Budhistiaeth a phob ffau-grefydd wedi diflanu o'r byd ? D. T.