Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEREN ORLLEWINOL. Cyi XXI.] HYDREF, 1864. [E; hif. 264. ADGOFION AM Y DIWEDDAR ÖYBARGH ELLIS EYANS, D. D., CEFNMAWR. <ÎAN Y PABCH. J. PBICHRRD, D. B., LLANGOLLEN. • • . . Ganwyd y &Dr. Ellis Evans ?n ^big.y.swch, Meh. 22, 1786, mcwn lle YD°d ar ochr y Garnedd-wen, o dan yr Arran, sydd a'i frig yn nghymylau y nen, ^n Meirion. Tybir oddiwrth sylw yr enw- ^S Robert Halí fod a fyno ansawdd gwlad a tteddwl ei phreswylydd. Dywedai am ^astadtir swydd Oaergrawnt a'i hafonydd ^Darwaidd, eu bod yn ddigonol i fagu y Pruddglwyf marwol yn caeddwl y cryfaf 0 ^dynion. Yr oedd Llanuwchllyn, man- fpe genedigaeth ein brawd anwylaf, yn holloi wahanol. Yma canai pob afonig *oew ar y llethrau serth, a'r mynyddau a'r "ryniau a fìoeddiant ganu. Digon tebyg |°d golygfeydd goruchel a bywiog yn dy- tanwadu ar y meddwl dynol. Beth bynag am hyny, y mae LlanuwchHyn wedi bod yi fagwrfa i lawer o welnidogion efengyl ^rist. Gallem enwi yn undeb yBedydd- ^yr, John Jones, Brynmelyn, wedihyny © ■^amoth, Dyfed: Dafydd a Joseph Rich- ard, Dafydd Roberts, Edward Humphreys, a symudodd i'r America, bell, a Dr. Ellis *vans, a Uawer o weinidogion defnyddiol gydag enwadau crefyddol eraill, nad wyf ^Q ddigon adnabyddus o honynt i'w henwi ^ma. Yn ei ieuengctyd, gwrandawai Mr. Ellis -Evans yn astud ar y Dr. George Lewis, Sweinidog yr Annibynwyr, a meddyliaiyn lawr a pharchus am dano. Hoffai adrodd aiö ei ddull pwyllog, ysgrythyrol, ac od, yn <pregethu. Wedi darllen ac enwi pennod ac adnod y testyn, dywedai, "Yr Arglwydd a gynorthwyo ei was: a'r hwn a wrandawo, gwrandawed; a'r hwu a beidio, peidied !" Cofiai y Dr. Évans am adegau marwaidd a bywiog yn ngweinidogaeth Dr. Lewis.— *"n y rhai marwaidd byddai cryn nifer yn defnyddio yr hen gapel yn wely, a sain y pregethwr i sio iddynt gysgu, nes cyffroi y üefarwr i lefain, " Deffrowch Shonyn y —----, rhag ofn iddo ddeffro yn uffern."—■ Cafodd gweinidogion Crist yr amseroedd hyn lawer o oâdiau addiwrth anwareidd- dra drygionus yr ieuengctyd. Mewn add- Ctf. XXI. 28 cliadau a gynnelid mewn tai annedd, pan fyddai y tai yn llawnion o bobl, byddai y dyhirod cellwerus yn pmsio eu gilydd, yu pinio y merched wrth y meibion, a llawer o wamalwch drygionus o'r fath. Yn amser eirin addfed, lluchìent y rhai hyn at eu gil- ydd yn y capel; ac unwaith saethodd Dio o'r------eirmen at y Dr. Lewis, a tharaw- odd ef yu ei drwyn pan yn pregethu. Oyff- rodd hyn y gweinidog difrifol, a saethodd Dio yn ol ag ychydig ymadroddion llym- ach na saethau cawr, hyd nes oedd yn gwyneblasu a chrynu fel Babilon yn yr olwg ar y darn llaw ar galchiad y pared. Bryd arall byddai tymor bywiog ar gre- fydd, hyd nes byddai dynion a merched cryfion yn syrthio i lewygfeydd dan bwys- au gorddy gair. Ieuengctyd rhyfygus, ar fin colledigaeth, yn dolefain nos a dydd mai mwy oedd eu pechod nag y gellid ei faddeu. Yr oedd dyn ifanc nad wyf yn awr yn cofio ei enw yn y cyfiwr anobeith- iol, dychrynadwy, acalaethus hwn; ac aeth dwy o ferched ieuaingc i edrych am dano. Edrych gweled ei lygaid llymion a'i wyn- ebpryd yn dangos fod galar, gruddfan a gwae yn llifo o drallod ei enaid, a'i glyw- ed yn dywedyd, " Yr wyf dan ddedfryd damnedigaeth eisoes, ac yn mhen ychydig oriau byddat yn ddamnedig rhwng dannedd cythreuliaid, dan glo cyfiawnder dealedd- ol, yn ngwaelod uffern ; a byddi dithau yno, Gweno, oni edifarhei di!" Erbyn hyn dyna yr wchw fawr, a Gweno yn cwympo i lawr, ac am ddyddiau lawer mewu hollol anobaith. Yn yr amseroedd teimladwy hynybyddai pechaduriaid wrthy degau yn ymofyn am noddfa yn Nghrist, rhag y dig- ofaint oedd ar ddyfod. Pa brydy ganwyd gwrthddrych ein cot iant o Dduw, nis gwyddom; ond gwyddon oddiwrth ei waith yn caru Duw, yn galw arno, ac yn dwyn ei ddelw, ac yn caru plant Duw, mai o Dduw y ganwyd ef, a'i fod ef yn adnabod Duw. Digon tebyg iddo feddwl treulio ei fywyd crefyddol gyda yr Annibynwyr, ar ba rai y gwran- dawai yn ei ddyddiau ieuengaf; eithr nid eiddo gwr ei ffordd. Daeth Joseph Rich- ard i bregethu a bedyddio i Lanuwchllyn ; ac fel y mae bedydd, er pan sefydlwyd ef yn eglwys Crist, yn boblogaidd ; felly y bu y waith hon. Gan mai ymofynydd am wirionedd oedd Ellis Evans, sylwai yn