Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEREN ORLLEWINOL. Cyf. XXI.] MAWRTH, 1864. [Rhip. 257. HYNODION YN MYWYD Y GWAREDWR. LLYTHYR II.—Y BEDYDDIAD. Y mae y cyfnod maith o ddeunawmlyn- <edd yn gorwedd rhwng hanes yr Iachawd- wr yn synu y doctoriaid luddewig yn oinas Caersalem à dechreuad ei weînidog- aeth gyhoeddus. D&ngosodd ei ddoeth- ineb gyntaf yn ngwisg gostyngciddrwydd. Owrandawai ar a gofynai gwestiynau i'r hen Rabiniaid Iuddewig dysgedig hyny, nes synu yr holl wyddfodolion ; omî eto ni wnelai hyny yn gymmaint trwy areithiau dyfnddysg, anmhriodol ac anghydweddol â'i oedran plentynaidd, a thrwy el -ateb- ion parod, ffraethlym a ■synwyrgall. Yr oedd wedi dechreu eisoes ar waith pwysig ei Dad nefol, er ei fod eto yn ddarostyng- edig i Mair a Joseph. Plentyn eneinnied- äg oedd ef yprydhwnw, fel y bydd maes o law yn ddyn eneinniedig: y mae pob cyf- nod o'i fywyd yrtra mor dderbyniol gyda Duw ; a chynydda mewn ffafr gyda Daw a dynion. Nis gallwn ddywedyd nemawr, gyda sicrwydd ysgrythyrol, am dano yn ystod y deunaw tnlynedd hyn, heblaw eî fod yn byw gyda ei rieni yn Nazareth—ei fod yn fachgen ufudd iddynt, ac yn tyfu mewn parch yn ngholwg pawb a'i had- waenai. Ganwyd ef i droi mewn cylch uchel—i gyfiawni gwaith pwysig; ac y mae eî swydd yn un o ymddiriedaeth a chyfrifol- cleb. Y mae rhyngddo ef gyssylltiad â hen osodiadau dwyfol, a rhaid fod yr hwn a'u lleinw yn feddiannol arsobrwydd a dî- frifoldeb uwch na'r cyffredin. Felly, prin oedd yr Arglwydd Iesu uedi cyrhaedd ei 30ain*oed, sef yr oedran oedd yr offeiriad luddewig yn cael ei ystyried yn addas i argymeryd dyledswyddau y swydd offeir- iadol, yr ymgyflwynodd yn hollol i'w waith. Ac er ei fod yn berson o oedran aeddfed—yn feddiannol ar gymeriad pur, dihalog, ac yn Fab Duw, er hyny yr oedd yn ofynol iddo ef i gael ei gyfaddasu i'w waith a'i swydd oruchel. Ond cyn myned yn mlaen at destyn un- ion-gyrchol ein sylwadau, byddai yn ddydd- orol ini daflu cipolwg fer ar amgylchiadau pethau yn ngwawr dysgleirdeb y " sereta ddydd :" oblegyd y mae wedi codi, ac y mae ei golen llachar wedi dechreu treidd- r Cyf- XXI. 3 io i gongiau tywyHÎ-af ŵagfaro meibion a merehed gwlaá yr ®.4dewid. Pan oedd yr Iudâewon ar binacl uchaf eu dysgwyliad mm ddyfodiad y Messia addawedig.wele yn ymddangos yn niffeith- wch «ITndea, a'r cymmydogaeŵau cylchyn- ol, nn o> cymeriadau rhyfeddaf a ymwel- odd a'r ddaear hon, er dyddiau yr hen broffwydi rhyfedd gynt. Ei drigfan gyff- redin oedd anialweh unigol, ei wynebpryd oedd losgedig gan wres tanbaid haul y nefoedd, a'i edrychiad allanol oedd o ym- ddangosiad anwrteithiedig. Ymnofiai eî lygad gwyllt mewn math o benderfyniad aLnshlygedig, a dangosai ddewrder calon na ehiliai drwch y blewyn oddiar lwybr dyledswydd. Codaihyn mewn rhan oddi- wrth ei fywyd unigol mewn anîalwch an- hygyrch, lle y cawsai wylltfilod yn gwmni, a natur y destyn ei fyfyrdod. Yr oedd ei fywyd neillduol yn ei dori ymaith o ang- enrheidrwydd oddiwrth bob cyssylltiad ty- ner, ac oddiwrth lawer o gyradeithas dyn- oliaeth. Ond dyn wedi ei ragfynegu oedd, acheir ei waith pwysig wedi ei nodi allan gyda y rhagfynegiad am dano. Yn awr y mae ei adeg wedi dyfod : y mae yn rhaid iddo fynegu ei genadwri, a gwelwn ef yn flaen- af ger glanau yr Iorddonen,J yn' wyllt ei edrychiad, sobr ei ysbryd, a phwysig ei iaith. Y mae ei farf aneilliedig yn debyg i eîddo brenin y goedwig, tra y mae dig- llonedd dwyfol yn fflamio yn ei lygad tan- llyd. Mor bwysig yw ei genadwri, mor llym ac arswydus yw ei ymddangosiad, mor ddychrynllyd a disymwth y daeth all- ■an, ae nnor anghydmarol yw y dylanwad sydd yn cydfyned â'i bregethauî Llosgent yn annyoddefol yn archollion dyfnion cyd- wybodan euog ei wrandawyr! Dichon fod rhywun yn barod i ofyn, Pa beth yw ei enw, a pha beíh yw natur ei swydd ? Hwn ydyw yr un y proffwydwyd am ei ddyfod- iad " yn ysbryd a nerth Elias"—dyma'r blaenor dewr—arloeswr y ffordd, a'i enw ydyw Ioan ! Y mae yn ddyddorol i sylwi ar fywgraff- iadau ysgrythyrol llawer o gymeriadau neillduol, a chanfod y llaw fawr sydd gan nnigedd yn eu ffurfiad. Dacw Abraham yn gadael ei artref, ac yn grwydryn mewn tir dieithr: yno y cynyddodd ei ffydd wrth fyw mewn unigedd gyda Duw, feî y daeth