Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEREN ORLLEWINOL. Cyf. XVI.] RHAGFYR, 1859. [Rhif, 124. DEILIAID BEDYDD. GAN Y PARCH. 0. H. SPHEGEON. Pregeth a draddodwyd yn ddiweddar yn Nghapel New ParTc Street, Llun- dain; ac a gyhoeddir yn y gyfrol nesaf, gan Sheldon rti Oyf., Lfrog Newydd. Açt. 8. 37.- •'•Os wyt ti yn credu â'th holl galon, fe a ellir." Y mae yn rhaid i air Duw sefyll, a'n dyledswydd ninau yw ei bregethu mewn modd eglur. Nid oes gan neb hawH gym- eryd ei fedyddio heb ei fod yn credu a'i holl galon. Yr wyf yn rhyfeddu fod neb yn dychymmygu y gellir llacau y rheol hon mewn un pwynt. Yr hyn sydd wedi fy nyrysu i yn aml yw nad yw Calfiniaid yn gweled fod bedydd o reidrwyddyn perthyn í bobl Dduw, ac iddynthwy ynumg. Onid ydym yn dysgu fod yr athrawiacthau wedi eu rhoddi er cysur ac adeiladaeth y cred- adyn, fod yr addewidion i'r credadyn, ac, mewnffaith, fod holl gynllun goruchwyl- iaeth grasDuwyn perthyn ì'r credadyn.ac iddo ef yn unig ? Yna nis gallaf ddeall ar ba seiliau y gall fod un eithriad i reol bedydd, ac y gellir coleddu y dybiaeth fod yr ordinhad bwysig hon yn agored ìr holl fyd nid yn unig y byd deallawl; ond mor ago'red ag y gall baban anwybodus ei der- 7Nid yn unig y mae hyn yn rheswm cryf gyda mi, ond ymddengys fod holl efengyl Crist yn anerch bodau deallawl. Nis gall- af weled pa beth a allwn wneuthur pe gelwid fii bregethu i fodau heb fod yn feddiannol ar deithi cyfrifoldeb : gwn fod yr efengyl wedi ei hamcanu 1 ymwneud a dealldwriaeth dynion ac â'u calonau ; ond tra mae'r galon a'r dealldwriaeth yn gor- wedd yn gysgiedig, nid wyf yn gweled pa bethaallaffi felpregethwrwneud, nac y medraf ganfod pa ddylanwad sydd gan yr efengyl ar y fath gyflwr. Ac felly yr' wyi yn rhyfeduu am y dygir baban anneallus 1 dderbyn ordinhad yr hon, yn ol fy meddyi- ddrych i, sydd yn gofyn dealldwnaeth ac Ufudd-dod yn y deüiaid. Hefyd, yr wyt yn rhyfeddu fod neb pwy bynag yn dych- ymmygu ei bod yn rheidiol i feddu ?deall- «ìwriaeth mewn trefn i gyfranogi o'r ordm- üad arall, ac nad oes dealldwnaeth yn Cyp. XVI. 34 ofynol i gyfranogi o hon, a bod baban newydd eni yn cael ei wneud yn ddeiliad o honi. Mae y peth hwn yn gyson gan yr Eglwys Sefydledig —dysgir ni yn y Cate- chism fod edifeirwch a ffyddyn ofynol cyn bedydd; ni bu amlycach gwirionedd erioed na hyn. Ond pa fodd mae eglwyswyr yn gyson â dysgeidiaeth yr eglwystraynbed- yddio baban nis gwn. Mae'n sicr fod ffug-ddyfais yn bodoli yn eu plith—mae y tad bedydd.a'rfamfedydd, pan yn dyfodat y bedyddfan, yn addaw yn enw y plentyn, y gwna efe gredu ac edif-irhau, ac ymwrth- od â'r diafol a'i holl weithredoedd—pethau nas gallai y baban addaw, ac nis gallwn inau addaw, a phe yn addaw byddwn yn gelwyddog i Dduw ac i'm henaid fy hun; o herwydd y mae tu draw i'm gallu i gyf- lawni y fath ymrwymiad hyd y nod pe bawn yr angel Gabriel ei hun. Mae yn wir y dywed yr eglwys fod yr addewid o edifeirwch, fel papyr yn ein cylchrediad ar- ianol, yn valid, er nad yn arian bathol edifeirwch a ffydd, ond eto etyb y dyben— mae'r addewid yn ddigonol. Ymddengys hyn yn ddyfais rhy ddyeithr i un creadur rhesymol i'w arysgrifo (endorsé). Argae pob ordinhad o eiddo Duw ydyw hyn, " Os wyt ti yn credu â'th holl galon, fe a ellir," a dim llai. Nis gallaf fwrw. all- an fy mrawd oddiwrth fwrdd yr Arglwydd os yw yn credu â'i holl galon :—nis gallaf gadw draw yr un baban oddiwrth yr or- dinhad o fedydd, os yw yn credu yn yr Ar- glwydd â'i holl galon : ond er iddo fod yn ddyn penllwyd, os nad yw yn credu, nid fy nyledswydd i, fel gweinidog Iesu Grist, yw cyfnewid cyfreithiau eglwys Dduw er ei fwyn ef; ond i ddweyd wrtho, "Saf yn ol hyd oni fyddot yn ufudd i orchymyn dy Feistr ; nis gelli fwynhau rhagorfreintiau tŷ Dduw hyd oni chredot, ac fel hyn roddi prawf dyfod yn blentyn Duw—-heb hynnis gallaf dy dderbyn i fod yn gyfranog â mi yu mraint y ddwy ordinhad ag sydd yn dy- nodi cymdeithas â Ohrist yn ei farwolaeth a'i gladdedigaeth." Wrthych chwi sydd yn awr ar ufuddhau y dywedaf, Fe wna'r ordinhad hon ddwyn adgofion o'r mynedol i feddwl llawer o ho- nom. Y mae yn dwyn o flaen fy meddwl i afon, a thyrfa luosog, a dyn ieuangc yn araf gerdded yn nghanol ffrwd lifeiriol, ac yno yn ngwydd y dorf yn rhoddi ei hun i