Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEREN ORLLEWINOL Cyf.IX] IONAWR, 1852. [Rhif. 91. DBWIS GWHIMIDOG. Q'r"Drysorfa Gyrmulleidfaol." ThoMas.—Beth oedd y penderfyniadau a wnaethoch yn y cyfarfod yr hwyr o'r blaen? addarfu i chwi gy.duno o bartujgweinidog ? a phwy ydyw ef ? Shon.—Na; ni phenderfynwyd dim. Bu llawer iawno siarad yno; ac fe enwyd rhai, yn ol fy rnarn i, o'r dynion mwyaf teilwng ; ond beth dal hyny, mae amryw ddynion yn ein plith nad oes modd eu boddloni ;* mae rfayw fai ganddynt ar bawb? Thomas.—Rhaid yw mai dynion glân y w y rbai hyn; pe amgen hwy a wridient beth wrth grybwyll am feiau dynion eraill. Shon.—Na, na; galarus yw gorfod dywed- yd, y dynion hyny yn y cyffredin sydd amlaf eu beiau a'u diffygiadau ; byddai yn dda gen- yf eu gweled yn rhodio yn fwy diesgeulus, neu beth bynag yn cau eu safnau yn yr eg- Iwys. Thomas.—Wel, pwy oedd fwyaf ffraeth yno i wrthwynebu mesurau a chynnygiadau ? Shon.—Dai Caleb, Twm Ty-draw, Ami Bentwyn, a Mari'r Glâp. Thomas.—Mae yn rhaid dywedyd y gwir, tylwyth digon trwstan yw y rhei'na, ac an- nhebyg iawn i arfer llawer o ffraethineb yn yr eglwysi, ac yn dueddol iawn i ddywedyd am fíaeleddau cenhadau Crist. Y mae yn drueni mawr fod y fath daclau wedi ymlusgo i mewn i eglwys Dduw; mi a'u hadwaen bwynt yn eithat'da, a hyny er fy nghofid. Shon.—Rhyngoch chwi aminnau, yroedd- wn i yn gweled un o'r diaconiaid yn rhy bar- od i daro o ochr y tylwyth yma. Thomas—Arafwch ; un o'r diaconiaid!.' Beth! yr ydych yn peri i mi synu. Yr oedd- wn yn meddwl gwell pethau am ddiaconiaid; ond gadewch iddyntynawr; rhowch glyw- ed sut y bu hi. t Shon.—Darfu i mi gymeryd yr eofndra i gynnyg Mathew i fod yn weinidog i ni, yr hwn, yn ol fy marni, sydd yn bregethwr rha- gorol dda; ond cyn i mi orphen llefaru cod- odd Dai Caleb i fynu, a dywedodd ei fod efyn ystyried Mathew yn bregethwrrhy farwaidd. Eb efe, " Nid oes dim yn ddysglaer ac allan Crr. IX. 2 o'r cyffredin yn ei ddull a'i ddrychfeddyliau ef. Gwir fod y cwbl mae efe yn ei ddywed- yd yn sylweddol a da; ond fy meddwl i yw, na wna efe enill y bobl ieuaingc sydd yn ein plith. Heblaw hyny, yr wyf yn clywed nad y w efe nemawr o ysgolhaig, ac felly gwn na wna llawer o'n gwrandawyr ei leicio."— " Wel," ebe fi, " os na wna Mathew fy tro, bid sicr ni ellwch chwi gael dim yn erbyn Luc ; mae efe yn wr dysgedig, ac wedi ei ddwyn i fynu yn y classics, ac yn ysgrifen- ydd enwog. Os rhaid i ni edrych ar foddio ein cyfeillion dysgedig hwn yw y dyn î ni, a phenderfynwch arno." Tybiais na feiddiai neb agor ei ben yn erbyn Luc ; ond büan y gwelais fy nghamsyniad. Cododd Dafydd y diacon i fynu, a dy wedodd, " Frodyr, y mae yn angenrheidiol i ni bwyso y mater mewn Ilaw gyda manylwch. Yr wyf fi yn ofni na wna Doctor Esculapius ei leicio, oblegyd yr oedd Luc unwaith yn physygwr, a chlywais ddy wedyd na oddefai y doctor i un meddyg arall i aros yn y dref, os gallai efmewn ryw fodd.ei rwystro." "Ac," meddai Twm Tŷ- draw, " wedi y cwbl, ni ddeallais i erioed ei fod yn Uawer o bregethwr. Ei bregethau ydynt yn blaen iawn; 'does dim yn fawr yn- ddo." Wrth glywed dweyd yn erbyn yr enwogion hyu mi benderfynais na ddeuai ün daioni o'n cyfarfod, ac mai heb weinidog y buasem; felly rhoddais i fynu gynnyg neb arall, ond darfu i rai o'r brodyr gynnyg am- ryw. Ymdrechaf roddi i cbwi beth a ddy- wedwyd, a cban bwy. Dafydd.—Frodyr, yr wyf fi wedí cael boddlonrwydd mawr wrth wrandaw ar Marc yn pregethu ; y mae yn dywedyd cymmaint mewn ychydig eiriau. Ami.—Yr wyf fi wedi clywed nad yw efe yn caru bod yn hunan-ymwadol. Chwì a wyddoch iddo droi yn ol unwaith wedi iddo gychwyn ar daith gyda Paul a Barnabas.—■ 'Does arnom ni ddim eisiau dyn sydd yn cara esmwythdra. Thomas, y diacon.—Dywedodd Paul eifod yn fuddiol idclo ef wedi hyny. Mari.—'^Vnaefe byth mo'r tro i ni. Rhaid i ni gaol dyn mwy cyfan. Alfred—Bethdebygech chwi am Timothy? y mao efe yn cael llawer o ganmoliaeth.