Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEREN ORLLEWINOL, Oyf.YII-] MAWRTH, 1850. [Rhif. 67. AWGRYMAU I YSTYRIAETH PREGETHWYR. Y mae llawer o ymholi yn y dyddiau hyn beth sydd ynperi fod achos crefydd mor isel, a'r efengyl mor ddilwydd. Nid oes amheu- aeth nad oes amry w achosion o hyny; y mae llawer i'w briodoli yn ddiau i diffygion ein pregethwyr a'n gweioidogion. 1. Y mae llawer yn ymwthio i'r weinidog- aeth yn dra amddifad o gymwysderau addas i'r swydd. Y mae lle i ofni fod dynion an- nychweledig yn dra mynych yn rhuthro i'r swydd santaidd hon! Dylai gweinidogion ac eglwysi gymeryd y gofal mwyaf i beidio cym- eradwyodynion anghymwys i fyned i'n hath- rofeydd. Heb son am y draul o'u cynnal, bydd y cyfrywar ol pob traíferthyn ofididdynteu hunain, yn waradwydd i'r efengyl, ac yn blà i'r eglwysi. Y mae yn hawdd camgymeryd gyda golwg ar fedrusrwydd dynion ieuaingc i ddysgu ieithoedd, &c.; y mae llawer yn ;,., ...fedrus i ddysgu Groe^ a Lladin na feddant ddim o ddoniau priodol y weinidogaeth. Y mae digonedd o engreifftiauo hyn yn yr Eg- lwgs Esgobaethol. Y mae llawer o'r pregeth- wyr goreu a gyfododd yn eu hoes wedi cael yn hytrach eu diystyru yn yr athrofeydd, tra y mae llawer o'r pregethwyr gwaelaf a fu erioed mewn areithfa wedi cael eu dyrchafu o herwydd eu medr i yfed dysg. Y mae yn beih o bwys mawr i'n heglwysii gael gwein- idogion yn meddu doniau ac ysbryd y weini- dogaeth, belhbynag afyddo eu dysg. 2. Onid oes genymachos ialaru fodllawer ydynt wedi eu cynysgaethu â doniau a man- teision, yn llawer mwy diddefnydd nag y dylent fod, o herwydd diffyg llafur. Ni bydd fawr o lewyrch ar un gweiuìdog ynhir, heb ymroad beunyddiol wrth ddaillen, ray- fyrio, a gweddio; y mae y doniau goreu yn gwywo heb gael y gwrlaith hwn yn barhaus. Yr achos fod John Elias, Christmas Evans, a 'W'illiams y Wern, mor ddysglaer hyd ddi- wedd eu hoes, oedd eu bod yn llafurio yn ddifiino hyd y diwedd. Nid oe.s nemawr i ddyn diwyd a phenderfynol na ddaw mewn amser yn enwog ac yn ddefnyddiol. Y mae yn rhaid Uafurio y dyddiau hyn, neu golli y dydd yn lled fa»n. Y m«« oet y bloeddio, y €rr. VII. 8 canu, y gŵr dyeithr, a'r " newid doniau " ar ben. Y mae synwyr yr oes hon yn gyru pethau fe 1 hyn o'r golwg. Y mae yn syndod meddwl cyn Ueied o lyfrau da y mae llawer hen bregethwr wedi ddarllen, a chyn lleied j maent yn ei ddeall o feddwl y Bibl. Mor an- fedrus ac analluog ydyw lluaws i amddiffyn gwirionedd Cristnogaeth, gwrthwynebu cyf- eiliornadau, ac amddiffyn y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint. Y mai rhai o'r dosbarth hyn yn ceisio gwneuthur eu hunain yn enwog drwy ddifrio y dynion a f'o yn Uafurio, peidio ymosod ar un cyfeiliornad, na dywedyd dim yn erbyn y pethau y byddo y werin o'u plaid! Mewn gwirionedd, duwinyddion tylodion ydyw lluawso bregethwyryroes hon. Y mae yn dra pheryglus fod y bibell, y papur newydd, &c, yn lladrata gormodedd o amser! Y mae yn well gan lawer o bregethwyr gael rhyw ystafell ddirgel i ddifyru eu hunain gyda y bibell a'r gostrel, nag ymofyn am ystafell i dywallt eu calon gerbron Duw! Y mae naw 0 bob deg ó'r rhai sydd yn pesgi eu hunain, yn bwyta 'neu yfed, neu ddiogi mwy nag a ddylent. Dylem nid yn unig fynu amser i ddarllen, ond hefyd amser bob dydd i weddio. Os mynwn orchfygu gyda dynion, y mae yn rhaid i ni yn gyntaf orchfygu gyda Duw. Y maeynrhaid addeffoi llawero'nheglwysi yn y wlad yn dra diymdrech i gynnaî eu gwein" idogion: gwyr yr ysgrifenydd yn ddigon da fod yn anhawdd i lawer gweinidog i gael amser na llyfrau. Ond os gallwn yn rhyw fodd gael tamaid o fara, y mae yn rhaid llafurio. Y gwir yw, y maeyn rhaid i'r eglwysi ddeff' roi i gynnal eu gweinidogion ; y mae yn rhaid i weinidogion ymroi i lafurio, neu ynteu y mae yn rhaid i achos crefydd golli tir. 3. Y mae llawer yn eîn plith yn rhy an- wyliadwruso ran eu hymddygiadau. Medd- yliwn frodyr anwyl am yr ysgrthyrau canlyu- 01 a'u cyffelyb. 1 Tim. iv, 12; Tit. ii, 7; l Thes. ii, 10 ; a 1 Pedr v, 3. Dylem ystyried er hyny, faint bynag o bwys sy mewn iawn agweddiad allanol gyda golwg ar ein cymor- adwyaeth gerbron dynion. y mge f'od ein hyg- bryd mewn iawn agwedd yn fwy o bwys gyda golwg ar ein cymeradwyaeth gerbron Duw. Y mae llawer nn fe ddichon yn rhy dueddol i feddwl yn uchel o'u rymenaiatt, o« byddawt