Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEEEN ORLLEWINOL. Cyf. IV.] HYDREF, 1847. [Rhif- 40. ■v CYDWYBOD YN PROFI SEEYLLFA DDYFODOL. O'r ' Bedyddiwr' am Gorphenhaf. "Conscience, iìie torturer of the soul, unseen, Does fiercely brandish ascourge within. Severe decrees may keep onr tongues in awe, But to our thoughts tohat edict can give law? Even you yourself to your own breast shalltell Your crimes, and your own Conscience be yonr Hell" Mae y Creawdwr wedi sefydlu deddfo gyf- rinachiad (inlerconrse) rhwng ei orsedd ef ag egwyddor anfarwol y dyn. Fel ag y mae yr enaid yn frodor o dragywyddoldeb, y mae he- fyd yn ddeiliad i dragywyddoldeb. Felly, er fod y brodor hwn mewn alltucl, yn trigfanu mewn pabell o bridd ar y bellen ddaearol, ac o fewn terfynau amser; eto, y mae yma ryw gyfrinach (communication) yn cael ei chario yn mlaen rhyngddo â'r orsedd i'r hon y mae yn ddeiliad o honi yn barhaus ; fel ag y mae barn y nefoedd am bob gweithred ac ymddyg- iad o'i eiddo yn cael ei chyhoeddi yn llys yr enaid, trwy yr hyn y mae yr egwyddor an- farwol yn syd-wybodus â'r Holl-wybodol j raddau, am natur ei ymddygiad, &c. Felly y mae cydwybodau dynion, yn ol y graddau y byddont yn ddiwylliedig, yn "eu cyhuddo neu eu hesgusodi." Y mae y cynhyrfiadau (emotions) o eiddo y meddwl dynol yn rhagbrawf cadarno anfarw- oldeb yr enaid. Pe edrychem ar bersonau rhinweddol yn dyoddef adfyd, yn difwyno eu cysuron, yn peryglu eu hoecll, heb un golwg, na gobaith, na phosibilrwydd, iddynt gael un wobr na boddhad am eu llafur yn y fuchedd hon ; eu gobeithion sydd ganddynt fel angor- ion tu fëwn i'r llen—edrych yn mlaen y maent ar daledigaeth y gwobrwy. Y mae y gobeithion yn hysbysedig i'r enaid, ac ynprofi iddo fod sefyllfa o wobrwyad yn ei aros ar ol hon. Pe dilynem fuchdraeth apostol mawr y cenedloedd, ni a'i gwelem ef o'i whfodd yn gosod ei hun yn agored i lafur a lludded, i wawd, dlrmyg, a digasedd dynion; mewn blinderau, mewn adfydaii, mcwn newyn, a noethni, mewn peryglon yn aml ar dir ac ar fôr; mewn gwialenodau, mewn carcharau, Cyf- IV, 25 ac yn y diwedd mewn arteithiau merthyrdod. Beth oedd yn darbwyllo ei feddwl i ddyoddef yr holl bethau hyn i gyd 1—a oedd gydag ef olwg am ennill gwobr, etifeddiaeth, nea hawddfyd yn y fuchedd hon? Nac oedd: " cyrchu at y nod" y tudraw i'r llen, oedd ei amcan; dysgwyl oedd am " goron y bywyd," yr hon oedd i dderbyn o law ei Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, nid yn y fuchedd hon—ond " yn y dydd hwnw," pan ddaw i farnu y byw a'r meirw. Pe na fuasai sefyllfa ddyfodol, ac arfer iaith Paul ei hun, "y truanaf o'r holl ddynion ydym ni." Ond pe clisgynem i lawr ar hyd grisiau ha- nesyddiaeth yn nes atom, gallem enwi llawer a wnaethant ebyrth mawrion heb un olwg ar at-daliad yma; ond y cyd-wybodaeth (cow- science) ag oedd ynddynt a ddangosai iddynt " olud gwell ac un parhaus." Yn uihlith holl ddyngarwyr y byd, nid oes neb a saif yn uwch na'r gorenwog J. Howard o Bedford, yr hwn sydd, nid yn unig yn anrhydedd i'n henwad crefycldol ni o'i fod yn perthyn iddo, ond yn anrhydedd i'n rhywogaeth; a thybiem na fu- asai yn ddianrhydedd i'r côr angylaidd fod y fath enaid haelfrydig a'r eiddo ef yn perthyn iddynt; yr hwn, oddiar egwyddor wir hael- ionus a gyssegrodd y rhan hwyaf ofi oes i weithredoedd cla, ac i esmwythau gresynol- rwydd dynoliaeth trwy wahanol wledydd; yn ymsuddo i waered i is-gelloedd, a gosod ei hun yn agored i awyr heintus clafdai a char- charau i'r dyben o esmwythau ychydig ar sef- yllfa yr annedwyddolion a dyoddefaint y car- charor trallodedig. Er cyrhaedd yr amcanion uchelglod hyn,hebun golwgam atdaliadyma, tramwyodd dair gwaith trwy Ffraingc ; ped- air gwaith trwy Germany ; pum' waith trwy Holland; dwy waith trwy Itali; un waith trwy Spain a Phortugal, ac hefyd trwy Den- marc, Sweden, Ewssia, Poland, a rhan o'r ymerodraeth Dyrcaidd, i archwilio llochesau adfyd a thrueni, a gwasgaru cysur a lles yn mhlith clynolion oeddent wrthodedig, braidd, gan bawb eraill. " From realm to realm, with crossor crescentcrown'd, Whera'er mankind andmisery areíbund, O'er burnìng sands, deep waves, or wilds of snow, Mild Howark,journeying, seeks the house of woe. Down many a winding step to dungeons dark, Where anguish wails aloud, and fetters clank.