Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

39arlun ©enaüatol CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAItf. RHIF. XXVIII. MAWRTH, 1839. DYSGEIDIAETH YN INDIA'R GORLLEWIN. Mae sefyllfa bresenol y bobl dduon yn Nhrefedigaethau Prydeinig India'r Gorllewin, yn arddangos golygiad o hofF-bwysedd rhagorol iawn i bob ewyllysiwr da i grefydd a dyniol- aeth. Gwnaed cyfnewidiad mawr arall ar gyflwr allanol ein brodyr hyn, ac maent yn awr wedi eu gosod mewn amgylchiadau a oddef eu cynnydd cymdeithasol a moesol yn annher- fynedig. Mae y dyn du yn awr yn sefyll yn union-syth, yn y cyflawn feddiant o ryddid personol; nid yw iau caethiwed mwyach yn ei ddàl dan ei heffaith dirmygawl a fferllyd; ac os, yn chwanegol at y manteision a gaiff efe oddi wrth y berthynas newydd yr aeth iddi, fel dyn ac fel deiliad Prydeinig, y caiff hefyd ei wneyd yn gyfranog o fendithion diddarfod orefydd ; yna, ond nid cyn hyny, y meddianna efe yr hyn oll a ddymunodd ac a geisiodd ei gyfeülion gorau iddo. Nid oes neb a sylwodd ar y pwnc mawr o ryddâd y bobl dduon, ac a graffodd ar fynediad yn mlaen achos mòr bwysig yn ei ganlyniad, i achas teyrnas y Gwaredwr yn y byd, a all fod yn anhysbys o'i hanes er y dydd cyntaf o Awst, 1834 ; pryd y datganwyd trwy ddeddf y Llywodraeth Amherodrawl, fod gweuryddiaeth (slauery) wedi darfod am byth yn y Llywodraethau Prydeinig; a phfyd y trefnwyd preütisiaelh y bobl dduon yn y trefedig- acthau (colonics), fel yn rhagddarpariad i'w hollawl ryddâd hwynt. Trefnwyd yn y ddeddf