Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

aarlun ©ettaîíatolt RHIF. XXVI. MEDI, 1838. CYMÜEITHAS GENADAWL LLUNDAÍN, COFIANT BYR AM ANDRIES STOFFLES, HOTTENTOT DyCHWELEDIG, Yr eglwysi Hottentotiaidd a gasglwyd yn Africa Ddeheuol, trwy offerynoldeb Cenadau y Gytndeithas yn y wlad hòno, a gynnwysant lawer o esamplau rhagorol o gymmeriad a theilyngdod Cristiouogol. Byddai yn hyfrydwch mawr i gyfeillion cartrefol y Genadaeth, gael cyfeillach personol weithiau âg un neu ragor o'r cyd-aelodau hyn o'r un corph ys- brydol; ond anfynych iawn y cafwyd y cyfryw gyfarfodydd hyd yn hyn, ac nid yw yn debygol y daw amgylchiadau i'w gwneyd yn amlach o hyn allan. Y diweddar Andries Stoffles ydoedd un o'r ychydig iawn o'r Hottentotiaid dychweledig y cawsom ni yr hyfryd- wch o'i groesawi yn ein mysg. Cofir ef yn serchiadol gan dorfêydd o gyfeillion Africa yn y wlad hon, fel un a adnewyddwyd ar ddelw Crist. Daeth Stoffles i'r wlad hon i ddadlau achos ei gydwladwyr gorthrymedig a dyoddefus; ac i ofyn ar eu rhan hwyut am gydym- deímlad a chymmorth Cristionogion Prydain. Yr oedd efe yn ddadleuwr nerthol, oblegid yr oedd yn meddu hyawdledd natur a grym gwirionedd, mewn undeb â dylanwadau crefydd ; ac ni adawodd un galon heb ei chyffôi, na'r un meddwl heb ei argyhoeddi, trwy ei gry- bwylliadau a'i ddeisytìadau. O herwydd clafychu yn ein hinsawdd annghydnaws ni, dychwelodd i Africa, eithr ni bu fyw ond ychydig ddyddiau wedi cyrhaedd Tref y Penrhyn : hyd ei awr ddiweddaf, sicrêir i ni ei fod ef yn mwynâu tangnefedd a Uawenydd trwy gredu ;