Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3©arlun ©enaîfatol* RHIF. XIX. RHAGFYR, 1836. CYMDEITHAS GENADAWL LLUNDAIN. INDIA'R DWYRAIN. JCRISTNAPORE. PERYGL ODDIWRTH Y SARPH DORCHOG, (BOA CONSTRICTOR.) -Jm. Yr hanes canlynol am y dygwyddiad a ddarlunir uchod, a roddwyd gan y Parch, George Gogerly, Cenadwr yn Calcutta. Am dair blynedd olynol, yn misoedd Mai a Hydref, ymwelwyd â Bengal â chorwynt- oedd o'r dehau-ddwyrain, drwy y rhai y bu canlyniadau o'r fath mwyaf galarus. Cyf- ododd y môr fwy nag 20 troedfedd goruwch ei uchder arferol—ymollyngodd y ceulanau a gyfyngent yr afonydd Roopnarain a Dum- modah, a dinystriwyd holl barthau deheuol h. dehau-ddwyreiniol Bengal gan y llifogydd ganlynasant. Collwyd mwy nag 20,000 o ywydau, a'r anifeiliaid, cnydiau, tai, a meddiannau, a ysgubwyd ymaith oll gan y llìfeiriant. Gan fod y wlad yn wastadedd isel, gorlenwid penau y tai gan y dyoddef- wyr, tra yr oedd y dyfroedd, drwy barâu i godi, yn gwatwar pob ymgeisiadau a wnaid ì dd'ianc, a syrthiodd yr adeiladau a'r bobl, a chyd-ddistrywiwyd hwynt. Yr oedd y llifeiriant mòr fawr, fel yr oedd holl 'anií'eiliaid y goedwig am amser yn cael eu gyru o'u cynniweirfâau arferol, ac yn, gorfod ceisio diogelwch mewn brigau coed, neu fànau ucîiel o'r ddaear. Y sarph, yr yr hon y danfonais ei chroen, oblegid yr achos uchod efallai, a yrwyd o'r Soonder- bunds, ac a chwiliodd ei ffordd i'r orsaf Genadol yn Kristnapore, yr hon sydd ar ymyl gogledd-orllewin y coedwigoedd anial hyny. Yr oedd Meistr yr Ysgol Genadawl yn cyfanneddu mewn ty brodorawl bychan, yn ymyl terfyndir y capel; eithr oblegid eífeithiau y llifeiriant, yr hwn mewn rhan a gyrhaeddai y màn uchel hwnw mewn cym- hariaeth; ni chysgai yn ei dy ei hun, ond a ledaiei restog (mat) ynnellt-dy (verandah) y capel. Yn fore dranoeth, cyn ei bod yn oleu, aeth i'w dy i geisio peth rice i'w foreu- bryd; a chan y gwyddai yn gymhwys pa le i'w cael, estynodd ei fraich tua'r làn, agos- odai ei law ar rywbeth mawr, oer, a llyslyd. Wedi ei daro gan ddychryu, ciliodd yn ol yn y fàn, a gwaeddai yn uchel am help ; gan dystio fod rhyw mrito daiok jontoo, " bwyst- fil angeuol," wedi cymmeryd meddiant o'i dy ef. Gwedi cael goleu, canfyddwyd y sarph wedi ymdorchi, ac yn cysgu yn drwm.