Skip to main content

T MIS CYF. II. MEDI 1, 1894. IffllF 11 CYFEEBYNIADAU " Yn amser gwynfyd bydd lawen ; ond yn amser adfyd ystyria : Duw hefyd a wnaeth y naill ar gyfer y llall, er mwyn na chai dyn ddim ar ei ol ef." — Pbeoethwe vii. 11. DYMA eiriau dyeithr a thywyll, fel y mae bron holl eiriau y Pregethwr hwn. Fod y fath lyfr wedi gwneyd ei ffordd i Ganon yr Ysgryth- yrau sydd ar yr olwg gyntaf yn dra dyeithr, fel ag i ffurfìo rhan o'r Llyfr sydd yn ddatguddiad o feddwl Duw i'r byd, ac yn rheol ffydd ac ymarwedd- iad. Y cyfrif a roddir am hyn ydyw fod yr Ysgrythyrau yn cynwys nid yn unig hanes gweithrediadau Duw tuag at y byd, ond hefyd hanes yr enaid dynol; " ei fod yn arddangos megys mewn drych wahanol deimladau yr enaid, sydd mewn gwahanol raddau wedi ei wlitho a'i hydreiddio gan Yspryd Duw. Ac y mae modd o brudd-der a thristwch i'r hwn y mae yr enaid dynoì mewn rhyw fodd neu arall yn dueddol ; ac fe gafodd hwn y mynegiad llwyraf yn Llyfr y Pregethwr. Fe ymddengys felly fod 11 e wedi ei gael yn hanes y bobl etholedig a ddewiswyd i fod yn gyfrwng y datguddiad dwyfol, i ochenaid gobaith siomedig, i brudd-der yr enaid a orchfygwyd gan deimlad o ddyryswch a dirgelweh bywyd dyn." Dyma y rheswm a rydd Driver i gyfiawntiau ei le yn y Canon. Diau ei fod yn hynod ddyddorol, a dyweyd y lleiaf, fel llef meddyìgar a chalondreiddiol o'r hen fyd ; ac ymdrinia â phwngc sydd yn fythol mewn dawr dwfn i'r galon, ac wedi cael sylw y mwyaf meddylgar yn mhob oes a gwlad. Y mae ynddo ymdeimlad dwfn a dwys o wagedd y creadur, ac ymchwiliad dyfal am ystyr ac amcan bywyd. Y mae el yspryd yn treiddio trwy awduron goreu pob gwlad ac oes ; i'w deimlo yn ddwys yn Sophocles, a Dante, a Shalcesperc, a Carlyle, ac yn arbenig Goethe yn ei Faûst. Y mae y Pregethwr wedi ei alw yn briodol gan un yn " Faust yr hen fyd." Prudd^der dwfn sydd yn ei nodweddu; teimlad a siomedigaeth enaid wedi cerdded ar hyd uchelfanau y byd i chwilio am.