Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T MIS. CYF. II. AWST 1, 1894. EHIF 10. DAELLEN A SEGUE-DDAELLElSr. YMAE llawer o ddarllen yn yr oes hon, ac y mae lle i ofni íbd llawer iawn o hono yn segur-ddarllen. Nid oes dim prinder ar lyfrau da a rhad; gall teithiwr pan yn myned ar wibdaith oddicartref ddwyn gydag ef yn ei ysgrepan lyfrgell yn fwy na'r un oedd gan Solon na Selyf yn eu palasdai. Y mae amlhau Uyfrau erbyn hyn wedi dyfod yn rhan bwysig o fasnach y byd, ac y mae cyhoeddwyr yn cystadlu â'u gilydd i'w dwyn hwynt allan am y rhadlonaf. A phwy na ŵyr pa mor fawr ac eang ydy w y wasg newyddiadurol ? Ehaid cael y newyddiadur ar y bwrdd gyda'r boreufwyd, ac ni bydd fawr o flas ar y tor-ympryd os na bydd y gohebydd neillduol wrth ein penelyn. Ac nid yn anaml y gwelir gwŷr llên a pharchedig yn chwilota yn y gerbydres am hanesynau a duwinyddiaeth yn Tit Bits, Rare Bits, Moonshine, a chyffelyb i'r rhai hyn. Y mae y bobl, pa beth bynag arall a ellir ei ddywedyd am danynt, yn dangos syched mawr am ddarllen pobpeth. Y mae Everton toffee a'r Newyddiaduron yn gwneyd dynolryw yn ngwledydd gwar yn hiliogaeth ddysglaer mewn gwydrau ac enamel. Ehaid iddynt wisgo gwydrau cyn y byddont allan o'r degau, a chario dannedd gosod yn y fargen. Pa emllion bynag ereill a geir oddiwrth yr argraffwasg a chocoîate, y mae y ddau beth hyn yn amlwg. Daw rhyw wleidyddwr yn fuan i weled fod yn y peth hwn reswm digonol dros gael Dirprwyaeth Freiniol. Nid awn yn awr i ymofyn paham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn? canys y mae yr awdurdod uchaf wedi penderfynu mai nid doethineb sydd yn ymofyn ara hyn. " Nid o doethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hwn." Fod y byd yn gwella o hyd, tebygem nad oes dim amheuaeth. Gall un oes ymddangos o fod yn treio mewn rhinwedd a nerth, ond y mae yr oesau i gyd, a chymeryd hwy bwy gilydd, yn Ilanw