Skip to main content

T MIS. CYF. II. MEHEFIN 1, 1894. RHIF 8. ADGOFION MEBYD AC IEUENGCTYD. " A Dafydd a flysiodd, ac a ddywedodd, O pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth."—I Oheon. xi. 17. MÂE y blys hwn, pa beth bynag a ellir ei ddywedyd i'w gyfìawnhau, yn dra naturiol a hawdd ei ddeall. Yr oedd Dafydd yn warchae- edig yn ogof Adulam, wedi ffoi yno rhag Saul; a'r Philistiaid, hen elynion ei bobl, wedi cymeryd meddiant o Bethlehem, ei dref enedigol, Naturiol, gan hyny, ydoedd iddo hiraethu gweled Bethlehem yn rhydd o feddiant y gelyn, ac yntau yn meddu pob rhyddid fel cynt i fyned a dyfod wrth ei ewyllys. Meddylia rhai esbonwyr mai dyma ydyw ystyr y dymuniad a fynegodd Dafydd yn y geiriau uchod, ond fod y tri phenaeth wedi ei gamddeall. Ond braidd na feddyliem nad oes yn y teimlad hwn rywbeth mwy na theimlad gwladgarol felly: fod Dafydd yn y geiriau hyn yn myned yn ol at ddyddiau tawel ei ieuengctyd, pan yr yfai yn ddiofal ac yn ddiberygl, o dan gysgod ei rieni, ddwfr o bydew y dreflan yn yr hon y ganwyd ac y magwyd ef. Pa beth oedd yn fwy naturiol i fiiwr sychedig, a llu y brenin yn gwarchae arno, na chwennych y dyddiau hyny drachefn pan yr oedd yn llangc ieuangc heb ymdaflu i'r byd ac heb blygu o dan ei ofaloD, yn chwareu gyda'i gyfoedion gerllaw y pydew, ae yn yfed pan yn sychedig o'i ddyfroedd. Y mae adgofíon ei ieuengctyd yn Uenwi ei feddwl ac yn gwlitho ei yspryd yn ei alltudiaeth, a blysia am ryddid a hapusrwydd y dyddiau hyny. Y mae y myfyrdodau hyn am y dyddiau gynt yn byrlymu dros ei wefus yn ddiarwybod iddo bron yn y geiriau, " 0, pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethleheaa, yr hwn sydd wrth y porth ? " Clywodd y tri phenaeth, a deallasant y geiriau hyn yn llythyrenol, ac anturiasant eu heinioes trwy warchodlu y Philist- iaid i gyfiawni dymuniad Dafydd, a dygasant lonaid helm o hono i dori ei