Skip to main content

Y MIS. CYF. II. MAI 1, 1894. EHI'F 7. YSGOL JACOB. " Ac efe a freuddwydiodd ; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a'i phen yn cyrhaeddyd i'r nefoedd."—Genesis, min. 12. " This world embraces no more than a limited part of our existence, and it is certain we ought to tread its fioor with an upward and not with a downward eye."—W. E. Gladstone. III. OS torir yr hen ysgol i lawr nid ydyw yn hawdd gwneyd hebddi. Y mae yspryd dyn yn ddinesydd byd arall, ac y mae yn dra naturiol iddo gerdded y byd gan droi ei lygaid i fyny. Ac er i'r pbilosopbyddion, a gamenwir felly, dori yr hen lofft i lawr, nid ydyw yn hawdd, hyd yn nod iddynt hwy eu hunain, fyw heb edrych i fyny ac ymorol am yr anweledig. Y mae yn wir na welant ddim, ac nad oes ganddynt allu, na neb arall, hefyd, wrth gwrs, i wybod dim am y goruwchnaturiol ae am. ddechreuad pethau, eto i gyd, y mae yn amlwg ddigon nas galìant fyw heb ddyfalu am y fath bethau. Dywedant wrthym nas gallwn wybod dim am Dduw, ei fod yn anwybodadwy : nas gellir gwybod dim oná deddfau, a ffeithiau, a ffigyrau, ac ystadegau, ac ymddangosiadau natur a ffolinebau dyníon ; ond nas gailwn wybod dim am achos mawr cyntaf ae amcanion eithaf pobpeth. Y cwbl a ellir ei wybod ydyw, ychydig o'r canol, y ffeithiau rhyfedd sydd yn gwneyd i fyny swm yr hyn a elwir yo, natur genym, a'r deddfau, hyny yw, y galluoedd sydd y tu cefn iddynt. Y mae Duw, meddent wrthym, yn anwybodadwy : fel y diachos a'r diberthynas, gorwedda y tu allan i derfynau ein gwybodaeth ; y mae y goruwchnaturiol a'r anfarwol yn gorwedd y tu hwnt i'n cyrhaeddiadau. Ac felly, ceisiant ein darbwyllo nad oes dim i wneyd ond gadael i'n duwinyddiaeth fyned i'r wadd ae iJr ystluniod, a thafiu yr athrawiaethau mawrion am î)dow a byd arall fel hen greinan diddiolch i'r domen; a boddloni 1 t ír> g cl ar y canoldir rhwng y dîddiwedd a'r di-