Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T MIS. CYF. 2. EBEILL 1, 1894. EHIF 6. AWDUEDOD CRIST. GAN Y PARCH. DAVID OWEN JONES. "A hwy a aethant i mewn i Capernaum ; ac yn ebrwydd ar y dydd Sabbath,. wedi iddo fyned i mewn i'r synagog, efe a athrawiaethodd. A synasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megys un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion. Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyrt ag ynddo yspryd aflan ; ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazareth ? a ddaethost ti i'n difetha ni ? mi a'th adwaert pwy ydwyt, Sanct Duw. A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan ohono. Yna wedi i'r yspryd aflan ei rwygo ef, a gwaed^ì â, llef uchel, efe a ddaeth allan ohono. Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofyn- asant yn eu mysg eu hixnain, gan ddywedyd, Beth yw hyn ? pa athrawiaeth newydd yw hon ? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysprydion aflan, a hwy yn ufuddhau iddo."—Maec i. 21—27. YN y bennod hon cyflwynir yr Arglwydd Iesu o'n blaen mewn pedair o olygfeydd gwahanol: sef, yn y synagog, yn y tŷ, ar yr heol gyda'r dyrfa, ac mewn lle anghyfanedd. Ac y mae'r byd mewn angen am Grist yn y pedair gwedd yna o hyd. Crist y synagog—i fod yn brif wrthddrych y weinidogaeth ac yn ogoniant yr holl wasanaeth ; Crist y tŷ —i lywodraethu, arwain, a chysuro ar yr aelwyd; Crist yr heol—i reoìi y byd allanol, i wella clwyfau a symud trueni y tyrfaoedd; Crist y lle anghyfanedd—Vx credadyn ofnus i ffoi i'w gysgod am ysprydoliaeth i'w feddwl ac esmwythyd i'w galon. Ac i'r graddau y bydd Crist yn Uenwi yr holl gylchoedd yna yn ein bywyd y bydd i'n cymeriad crefyddol gael ei wisgo â chyfartalwch, prydferthwch, a nerth. Ond yr olygfa yn y testyn ydyw, Crist yn y synagog—synagog Capernaum. Ac y mae yn dra thebyg mai y synagog a roddwyd i'r Iuddewon gan y canwriad hwnw a ddaeth at yr Iesu ar ran ei was ydoedd. Ac yu ol yr arferiad yn y synagogau, y mae'r Iesu yn cael cyfleusdra i siarad; ac y mae yn gwneyd hyny nes yr oedd y bobl yn rhyfeddu. " A.