Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T MIS. CYF. I. MEHEFIN 1, 1893. RHIF 8. Y GARREG A'E DDELW. GAN Y DIWEDDAR BARCH. JOSEPH THOMAS, CAENO. " Edrycb yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylaw, a hi a darawodd y ddelw ar ei thraed o haiarn a phridd, ac a'u maluriodd hwynt. Yna yr haiarn, y pridd, y pres, yr arian, a'r aur, a gyd-faluriasant, ac oeddynt fel mân us yn dyfod o'r lloriau-dyrnu haf; a'r gwynt a'u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a'r garreg yr hon a darawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaear. Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth : a'r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr boll frenhiniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd."—Dan. ii. 34, 35, 44. NID oes raid i ni ymdroi rhyw lawer gydag amgylchiadau y tes- tyn. Chwi a wyddoch oll mai gweledigaeth ydyw, breuddwyd Nebuchodonosor, brenin Babilon, yn cael ei ddehongli gan y prophwyd Daniel. Brenin mwyaf y byd, wrth bob tebyg yn yr oes hono, yn breudd- wydio, a phrophwyd mwyaf y byd, un âg Yspryd Duw ynddo, yn dehongli. Fe achosodd y breuddwyd hwn ddirfawr aflonyddwch i'r brenin a therfysg nid bychan yn y llys, canys nid oedd neb yn mysg y doethion a'r brudwyr a allasent ei ddehongli; ac fe orchymynodd y breriin eu difetha. A phan yr oedd eu penau mewn perygl, ni fuont yn hir cyn darganfod fod gan Daniel allu i'w gwaredu hwynt. Wrth bob tebyg fe fuasai yn well ganddynt gadw y Daniel hwn mewn dinodedd, ond yr oedd Duw wedi penderfynu ei ddwyn i sylw; a phan fyddo Duw wedi arfaethu peth, nis gall holl ddoethion a holl ymherawdwyr y byd ei rwystro : " Y mae ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragywyddol, a'i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megys yn ddiddym: ac yn ol ei ewyllys ei hun y mae yn gwneuthur â llu y nef ac â thrigolion y ddaear; ac nid oes a attalio ei law ef, neu a ddywedo wrtho, Beth yr wyt yn ei wneuthur." I ddwyn ei waith ymlaen os na wna brenhinoedd ddim yn effro, Efe a bar iddynt