Skip to main content

T MIS. CYF. I. MÀWRTH 1, 1893. EHIF 5. CYFEYNGWEIAETH CEIST. " Canys un Duw sydd, ac un «yfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu."—1 Tim, ii. 5. GAN Y DIWEDDAB BABCE. EDWAED EOBERTS, CAPEL SEIOtf, CWMAFON. YMAE tair llinell fawr yn rhedeg yn amlwg trwy yr Ysgrythyrau, o amgylch pa rai y mae ei holl ymdriniaeth â gwirionedd yn ymdroi: Perthynas Duw â dyn; perthynas dyn â Duw ; a pherthynas Crist â'r ddau. Sonir am arfaeth Duw, ac am greadigaeth, rhagluniaeth a gras fe\ cyflawniad o honi; sonir am ddyn yn ei greadigaeth, ei gwymp, a'i adenedigaeth; am ei ddinystr trwy bechu yn erbyn Duw, ac am ei ddyrchafiad trwy waith y Cyfryngwr mawr. Ac fe edrychir ar yr Arglwydd Iesu Grist fel Duw, fel dyn, ac hefyd fel Cyfryngwr rhwng Duw a dynion. "Canysun Duw sydd, ac un Cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu." Y mae yn y testyn ddwy blaid yn sefyll mewn dau eithafion—Duw a dynion. Nid ydynt mewn eithafìon o angenrheidrwydd; canys fe grewyd y dyn ar lun a delw Duw, gyda'r amcan iddo ymhyfrydu yn Nuw, a chaffaei ynddo ei ddaioni penaf. Ond dyn mewn anrhydedd nid arosodd; syrthiodd ymaith oddiwrth Dduw trwy bechod; aeth yn ol am ei ogoniant, ac mewn canlyniad aeth i'r eithafìon pellaf sydd yn ddichonadwy mewn cyflwr oddiwrth Dduw. Y mae y ddwyblaid hyn gan hyny mewn pellder cddiwrth eu giìydd, a ben gweryl rhyngddynt â'u gilydd. Hyn sydd yn creu yr angenrheidrwydd am gyfryngwr rhwng Duw a dynion; y mae dyn wedi myned yn elyn i Dduw, ac wedi colli pob teyrngarwch iddo ; wedi syrthio o dan felldith y ddeddf y crewyd ef o dani. Y mae yn rhaid gan hyny gael cyfryngwr i lenwi yr adwy ac i ddwyn y ddwy-