Skip to main content

T MIS. CYF. I. CHWEFROR 1, 1893. RHIF 4. EIN BLYNYDDOEDD FEL CHWEDL. " Teettliasom ein blyntddoedd fel chwedl."—Salm xc. 9. ACHWEDL ryfedd ydoedd! Canys os ydyw y Salm hon, fel y gelwir hi, yn " Weddi Moses, gwr Duw;" ac os darfu iddo ei chyfansoddi tua diwedd y deugain mlynedd yn yr anialwch, fel Salm o gyffes a gweddí i'w gosod yn ngenau y genedl, y mae yn hawdd i ni weled grym a phryd- ferthwch y gair chwedl yn y testyn. Y mae y dwyreinwyr wedi hod yn hynod erioed am y ddawn i chwedleua; ac y mae eu chwedlau wedi gwneyd lle iddynt eu hunain yn llenyddiaeth y byd Derbyniasom oddi- wrth Arabia a Phersia chwedlau sydd wedi myned yn rhan o lenyddiaeth pob cenedl. Gallant gadw tyrfa yn ddifyr am fìl ac un o nosweithiau, a pheri i fynwes y teyrn anghofìo ei nwyd a'i greulondeb yu sŵn y chwedl. Y mae îíatur yn fwy toreithiog yn y Dwyrain na'r Gorllewin; ac fe ym- ddengys fod hyn i raddau mawr yn wir hefyd am ddychymyg a nwyd y dwyreiniwr rhagor y gorllewinwr. Y mae y ffrwytblonrwydd cynyrch- fawr hwn i'w weled yn ei chwedlau yn fwy nag mewn dim arall. Y mae ganddo ddawn dihafal i adrodd ystori, a gall eich dyddori mor fawr nes peri i chwi anghofio treigliad amser wrth ei wrando. Y mae y dyrfa yn crogi ar ei wefus, a'r histori yn cyfrodeddu ei hun mor esmwyth o'u ham- gylch, nes yr aoghofíant yr oriaü ac yr â toraeth o amser heibio yn ddiar- wybod iddynt. "Wrth ymwasgaru synodd pawb fod yr haul werîi gwyro i'w fachludiad, canys daliwyd hwynt yn gaeth gan y chwedleuwr ; fel na feddyliodd neb o honynt am y dydd, hyd nes i'r chwedì orphen. Gallem feddwl mai syniad tebyg oedd yn meddwl gwr Duw wrth cldefn- yddio y gair chwedl yn y testyn, a'i gymhwyso at dreigliad y blynydd- oedd. "Treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl." Ni fu yr un chwedL