Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T MIS. CYF. I. TÁCHWHDD 1, 1892. RHIF 1. "TALITHA, CWML' MARC V. 41, 42. (Pregethwyd Sabboth, Gorphenaf 24:ain, yn Nghapel Fitzclarence Street.J CA.WN yn y benod hon hanes tair o wyrthiau ein Harglwydd Iesu Grist, y rhai a gynnrychiolaut yn deg Ei holl wyrthiau ar bob dos- barth o'r bobl: gwyrth ar ddyn, ar wraig, ae ar blentyn. Yr oedd y dyn yn meddiant lleng o gythreuliaid; yr oedd y wraig mewn diferlif gwaed ; ac yr oedd y plentyn wedi marw. Trwyddynt gwelwn y Gwaredwr Mawr yn sefyll ger ein bron fel Adferwr y ddynoliaeth, a'r Hwn sydd yn em gwared oddiwrth allu y tywyllwch, oddiwrth halogrwydd pechod, ac oddiwrth y bedd. Y mae holl wyrthiau yr hanes efengylaidd yn arwyddion o'r gwirionedd mawr hwn. Nid gweithredoedd o iechydwriaeth ar gyrfF dynion, heb un- rhyw gyfeiriad pellach ; na, bwriadwyd hwynt i fod yn arwyddion o allu ysprydol yn gweithredu yn y byd er adferiad hollol a thragwyddol i ddyn. Gweithredoedd uerthol oeddeat yn gofyn mawr allu Duw yn gweithredu mewn ffordd nid yn groes, ond goruwch natur; ac o herwydd hyny yn meddu cymhwysder arbenig i enyn syndod yn meddyliau yr edrychwyr, gan eu cynhyrfu hwynt i ymorol am yr achos ac i ofyn cwcstiynau, y rhai a u dygent i sefyll wyueb yn wyneb â'r wyrth ryfeddol oedd yn mherson yr Arglwydd Iesu. " Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a'r môr yn ufudd- hau iddo?" «Ö ba le y daeth y ptthau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw nwn a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylaw ef ? Onid hwn y w y saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Judas, a Simon ? ac onil \w ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni?" Pan welodd y bobl y gweithredoedd nerthol hyn, hwy a ddechreuasant synu ac yraofyn am yr achos, " Pwy yw hwn ?" ac "0 ba le y daeth y pethau hyn i hwn ?" Cyíeiriai y gweithredoedd hyn eu sylw at y Gweithredydd, a pharent