Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÜWCH DEIL ÜRDD ANNIBYNOL Y TEILWÎR DA YN RHIF 22 O'R GYF. NEWYDD. RHIF 43 O'R HEN GYF. HYDREF 1, 1876. [Pms CsiNioa IAITH AC YSBRYD GWRTHWYNEBWYR Y CYN- RYCHIOLWYR PRYDEINIG AR Y CWESTIWN NEGROAIDD. GAN Y PARCH. MORRIS MORGAN, ABERDAR. Hwyrach y byddai yn fanteisiol i'r brodyr a'r chwîorydd, allant fod yn amheus o barth i briodoldeb ymddygiad y cynrychiolwyr yn Louisyille, gael deall pa fath bersonau oedd ganddynt i ymwneyd â hwynt yn y frwydr fawr am gydraddoldeb y negro. Diau y bydd darllen y darnau canlynol, wedi eu dyfynu o'r papyrau Deheuol, yn gymorth neillduoí i hyny :— Yr Alàbama Templar:—" Mae Mr. Malins, arweinydd yr encilwyr, wedi cael ei gynal gan yr Urdd, ac wedi der- byn cyflogau mawrion ; ond gan ei fod wedi rhedeg yr Uwch Deml i ddyled o 35,000 o ddoleri, a pheri eolled mewn aelodaeth o 40,000, mae ei allu a'i ddylanwad wedi diflanu. Mae yn Uawn hunanoldeb a mawreddog ei fwr- iadau, ac wrth weled fod ei ddylanẃad wedi darfod, defn- yddiodd y Cwestiwn Negroaidd yn unig fel rhith-esgus trwy yr hyn y gallai ymneillduo oddiwrth y W. D. U. Deml, a chychwyn mudiad Sismaticaidd. Ganddo ef y mae gofal y drysorfa—y lle a ddewisa o flaen pob lle arall. Mae ei gyngrheirwyr yn gyfansoddedig o ychydig o'i gyd- wladwyr, y rhai a dwyllwyd yn enbyd ganddo, ac ychydig o benau briwedig a swydd-geiswyr siomedig y wlsíd hon." Prin y mae yn werth sylwi fod yr holl gyhuddiadau uchod yn erbyn y Brawd Malins mor ddisail a phe dy wedid fod caeth-feistriaid Deheubarth America yn awyddus am ryddhau eu caethion, neu fod Temlwyr adfeiliedig y wlad hoDO yn barod i gydnabod cydraddoldeb eu cyd-ddynion mewn crwyn duon. Y Yedette, organ swyddogol yr Urdd yn Texas.—Mêwn erthygl o dan law U. D. B. D. y Dalaeth, dywedir mai enciliad y cynrychiolwyr Prydeinig oedd y peth goreu i'r Urdd a allasai gymeryd lle. Y North Baltimore:—" Nid yw Mr. Malina yn malio dau welltyn pa un a dderbynir y negro i'r Urdd ai peidio; defn- yddiodd hyn yn unig fel gorchudd, dan yr hwn y gallai ymneillduo oddiwrth y W. D. U. D., ac felly cuddio trafodaethau neillduol, y rhai a'u gosodent ef mewn safle chwithig, pe dadleuid hwy gan oleuni dydd. Nid cydradd- oldeb yr hiliogaethau, ond coffrau llawnion 3,000 o gyfrìn- faoedd, a geisir gan Mr. Malins." Wrth gyfeirio at ad-etholiad olynol y Brawd Malins, dywed :—" Gallai unrhyw ffwl gâel ei ethol ganwai^h drosodd ond iddo gael yr hawl o benodi cyntychiolwyr i'r Uwch Deml." Wrth gyfeirio at ad-uniad, dywed yr un pipyr :—" Mae yr encilwyr yn dechreu gweled llawn fa;ntioli eu ffolineb yn Louisville. Ni ddylid ystyried unrhyw gytundeb nea y byddo i'w His-Demlau fesur allan iddynt faint y gosbed- igaeth a haeddant mor helaeth. I lawr â'r bradwyr ! I'r arteithglwyd â hwy." O dan y penawd " Y Dirgelwch," dywed yr un papyr,— " Mae Mr. Maliss yn ffurfio yr hyn a elwir Dosbarth Demlau, ac o'r rhai nyn y daw cynrychiolwyr i'r U. Deml, y rhai raid fod heb eithriad yn Ddosbarth Ddirprwyẃyti wedi eu penodi gan Mr. Malins, yr hwn sydd yn U.D.B.D.* Mewn erthygl ar "Y safle bresenol," dywed,—" Pe buasai y fasnach rum, yn addaw i'r brawd,—na, nis gallwn bellach ei alw felly,—byddai oi bach yn fwy priodol,—pe buasai brenin alcohol yn addaw i Malins gyfoejfch Galeonda - pe buasai mewn cyngrair â'r un^drwg^; pe.buasai yn ysb'iwr dirgelaidd y WhìsJcy Eing, nis gallasai wneyd mwy o niwed i hon, yr ardderchocaf o holl sefydliadau dynol. Bydded iddo gofio, pan eto'yn eeiaio gorfoü Americaniaid i dderbyn ei gynlluniau dieflig, y bydd iddo gael ar ddeall fod ysbryd 1776 (adeg y rhyfel rhwng y wlad hon a'r America, a chyhoeddiad annîbyniaeth) heb farw; gorwedd yn gysglyd y mae, ac nid oes ond awel fechan yn angenrheidiol i'w chwythu yn füam................Yr ydym yn clywed fod y Malins hwn yn Baltimore, neu ar ddyfod yma, gyda'r amcan o greu gwrẀryfel yn erbyn y W. D. U. D., trwy ddenu Temlau negroaidd i ymuno â'r Prydein- wyr yn eu hymraniad. Gall en cael oll, ac ni ddywed yr un o'r rhai gwynion, Na, wrtho. Eifhr os yw y sî ei fod yn bwriadu cynyg yr un tricJc gyda'r Temlau gwynion, yn wirionedd, bydded iddo gymeryd gofal, onide gaU o bosibl gael ei. hun wedi ei hyrddio i lawr o un o ystafelloedd y Temlau.....,.........Os oeB gan Maryland ryw gẃyn yn erbyn gweithrediadau y W. D. U. D., dyna ydyw—ei bod wedi rhoddi cyfleustra i'r traws-reibwyr hyn i ddiraddio cynrycbiolaeth o foneddigion, y rhai ydynt gymakxt uwch- law y fath foch-benau (pig-heads) ag ydyw yr hiliogaeth, nieu yn rhagorach na'r negroaid." Y " Rẁerside WeeMy," organ U. D. Kentucky, wrth gyfeirio at ein cylchlythyr ar y Cwestiwn Negroaidd, a sylwai:—u Yr oedd y peth yn annisgwyiiadwy yma, ac yn anmhoblogaidd. Yr oedd y Gogledd a'r Gogledd-Orllemn fawr, rhai a ymladdasant yr un frwydr am flynyddau, gan