Skip to main content

<3t*uff&y* SWYDDOCOL ÜWCH DEIL URDD ANNIBYNOL T TEILWYR DA YN NGHYIRU. I RHIF. 14 O'R GYF. NEWYDD. 1 RHIF. 35 O'R HEN GYF. CHWEFROR 1, 1876. [Pris Ceiniog, YCHYDIG GRYBWYLLION I'R RHAI SYDD YN DYMUNO LLWYDDIANT DIRWBST. GAN Y PARCH. J. R. HUGHKS, D.DD. MON. Yr ydym yn dweyd Dirwest ara fod y gair hwn i ni y Cymry yn golygu liwyrymwrthodiad a phob gwlycyròédd meddwo', ac yn cynwys ynddo ei hnn bob cymdeithas— ac y mae lleng o honynt—y sy Jd yn dysgu dynion i íbd yn llwyryrnwrthodwyr. Y ffurf fwyaf lwyddianus ar ddirwest y dyddiau hyn yw Temlyddiaeth Dda—ond er ein bod yn ysgiifenu hyn i'r Temlydd—Organ Temlyddiaeth, un " dall ac heb weled ymhell" y cyfrifwn ni y dyn hwnw y sydd yn Demlydd Da, na all weleddaioni adymunollwydd- iant unrhyw gymdeithas y sydd yn amcanu jn deg at gyraedd yr un amcan mawr a Themlyddiaeth—sef cael gan ddynion i yrnwrthod yn llwyr aphob diodyddmeddwol. Dymunem gr*bwyll, y byddai yn fantais fawr i'r achos Dirwestol, i bob cymdeithas ddirwestol i gofio yr hen ddiareb mai, " mewn undeb y mae nerth." Nid yn unig undeb o fewn ygymdeithas ei hun, ond hefyd undebyr holl gymdeithasau a'u gilydd ; nid bod yr holl gymdeithasau yn ymfurfio yr un gymdeithasa olygir ; ond yn cydweithio mewn undeb a'u giîydd; mewn manau y mae amryw yn cydfodoli, lle y byddo ' Cymdeithas Ddirwestol,'—y 1 Rechabiaid'—Temlyddiaeth Dda'—' National Society '— yr E«lwys, 'Y Gymdeithas Ddarbodol,'—' Blodau yr Oes ' —a Themí y Plant,' &c, &c, oni ellid, ac oni fyddai yn dda cael cyfarfodydd cyhoeddus nndebol o;r cymdeìthasau hyn unwaith yn y mis dyweder, a ' Demonstration,' undeb- ol unwaith yn y flwyddyn; ac er i nodweddion y gwahan- ol gymdeithasau hyn gael eu dwyn i'rgoleu, eto fod pob un yn, a thrwy y cwbl yn cadw mewn goh^g yr un amcan mawr, sef cael y bobl yn llwyrymwrthodwyr, fel y mae yr amcan mawr o " gael pechaduriaid at y Gwaredwr" yn benaf peth yn ngolwg pawb sydd yn ysbryd yr efengyl, yn nghyfarfodydd undebol crefyddol y d/ddiau hyn. Nid ydyw o bwys mawr genym â pha enwad crefyddol yr ymuna e.in cymydog, ond cael Ue cryf i obeithio ei fod wedi ymuno â Christ, felly hefyd gyda Dirwest, ymuned ein cyfeillion â'r gymdeithas ddirwestol a fynant, bydd eu hymuniad yn destyn lìawenydd, oblegid bydd yn ychwaneg- iad nerth, ac yn allu mwy i ryfela yn erbyn meddwdod ein gwlad. Wedi dangos fel hyn ein bod yn dymuno am, ac yn llawenyctu yn llwyddiant pob ffurf ar ddirwest, goddefer i ni fanylu ychydig ar un neu ddau o honynt. Crybwyll- wn yn âaenaf y ffurf Ddarhodol ar ddirwest, oblegid y mae cymdeithas " Ddirwestol a Darbodol," ac y mae hefyd gym- deithas ' Ddarbodol Demlyddol.' Yr ydym yn cofio darllen amser yn ol yn y Daily News hanes cyfarfod yn Llundain, yn cael ei lywyddu gan Arglwydd Derby. Unig ddiben y cyfarfod hwnw oedd ceisio cael allan rhyw gynllun i ddarbwyllo y dosbarth gweithiol i beidio ag afradlcmi eu da, a darpar trwy ddarbodaeth ar gyfer y dyfodol ; cafwyd yno areithiau a chrybwyllion rhagorol. Darlîenodd ;.un seneddwr galluog ystadegau ag hanes prif gymdeithasau dyngarawl Prydain, ie, a chyfandir Ewrop hefyd, ond wed y cwbl ymwahiinodd y cyfarfod heb ddyfod o hyd i gyn- llun ymarferol, a hyny i'n tyb ni, yn unig oblegid un diffyg pwysig—gadael dirwest allan o'r golwg ; nid oedd y cyfarfod yn gallu gweled y posibilrwydd i'r gweithiwr i allu byw heb ddiodydd meddwol, ac o ganlyniad ni allent weled y posibilrwydd o allu ffurfio cymdeitbas ddarbodol. Ond ar y pryd hwnw yr oedd yn Ngogledd Cymru gymdeithas ddarbodol yn gweithio yn egniol a rhagorol, a'r aelodau yn derbyn cydrhyngddynt ar ddiwedd y flwyddyn ganoedd o bunoedd. Yr oedd y gymdeithas ddarbodol yma yn gymdeithas ddirwestol hefyd ; nis gellir bod yn ddarbodus a mynychu y tafarn- au. Erbyn h/n y mae yr egwyddor ddarbodol yn dyfod yn fwy cyffredinol i ymarferiad yn ein mysg. Y mae cymdeithas ddirwestol a darbodol ag iddi ei rheolau pendant, ac yn gweithio yn rhagorol. Y mae hefyd Gym- deithas Ddarbodol Demlyddol, yrheolau wedi eu cymhwyso at Demlyddiaeth, ac y mae hon hefyd yn gweithio yn rhagorol lle y rhoddir prawf arni ; talwyd yn ol yr wyth- nosau diweddaf trwy Ogledd Cymru i'r aelodau ganoeHd lawer o bunau o arian eu darbodaeth y flwyddyn a aeth heibio. Paham na roddid prawt ar yr egwyddor ymhob cyfrinfa ? Oni fyddai mabwysiadu yr egwyddor ddar- bodol yn fendith fawr i bob dosbarth o honom ? Onid oes tuedd gref mewn ugeiniau neu ganoedd o bunoedd a fydd gan ddyn wrth gefn o arian a gyniìwyd ganddo o'i lafur caled i feithrin ynddo hunan-barch ? Onid yw y dyn hwnw sydd yn byw yn ei dŷ ei hun, a gafwyd iddo trwy ei ddarbodaeth o'i enillion naturiol, yn teimlo ysbryd annibyniaeth ? Y mae gwastraff o bob math yn dinystrio hunan-barch, ac yn darostwng y dyn i fod yn was gweis- ion, tra y mae darbodaeth yn dyrchafu y dyn i annibyn- iaeth o ran amgylchiadau, ac i urddas o ran sefyllfa. Cenedl o ddynion felly y dylai y Cymry fod yn yr oes hon ; oblegid yn wyneb y fath gyfîogau a eniljir y dydd-