Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

. V. ORGAN ^^1»% SWYDDOGOL UWCH DEML UEDD ANNIBTNOLÜT TEMLWYB DA YN 'MHYMEU. RHIF. 13 O'R GYF. NEWYDD. RHIF. 34 O'R HEN GYF. IONAWR 1, 1876. [Pris Ceiniog, DIRWEST EGWYDDOROL. GAN Y PARCH. PROFFESWR PETERS, BALA. Dywedwyd llawer o bryd i bryd am fanteision ymarferol Dirwest. Y mae hyny yn berffaith iawn a theg. Llawer o betb.au difrifol a phwysig sydd i'w traethu am effeithiau galarus diota a meddwi, a gall hyny ddylanwadu yn fwy bywiog ar feddwl y cyffredin, na son am eeiliau'moesol Dirwest. Fe deimla llawer un nerth yr ymresymiad pan y cyfeirir at y golled arianol, a'r dinystr cymdeithasol a gynyrchir gan feddwdod, tra na bydd prawf athronyddol o'i ddrygedd a'i bechadurusrwydd ynddo ei hun yn cael nemawr effaith ar ei feddwl. Ond y mae i'r pwnc ei ochr egwyddorol, a dyma guddiad ei gryfder. Buasem fel pobl gall yn gwrthwynebu yfe 1 pe na buasai ond drwg naturiol yn unig, ond nis gallem deimlo mor ddwfn ac angherddol yn ei erbyn fel pobl dda, oni bai ei fod yn ddrwg moesol hefyd. Hyn sydd yn ei gysylltu â gwirioneddau mawrion a thragwyddol teyrnas Crist, yn ei erlyn i gilfachau dyfn- af y galon, ac yn ei olrhain i derfynau tragwyddoldeb. O ganlyniad, y mae yn fuddiol ac angenrheidiol i ni weith- iau daíiu trem ar gysylltiadau ysbr-ydol y pwnc, a hyny yn fyr a ymdrechwn yn bresenol. Pa beth sydd yn gwneuthur meddwdod yn bechadurus? Atebwn mai ei berthynas â chwant. Ond dichon mai buddiol i ni sylwi i ddechreu yn nacaol. Nid fod dyn wedi meddwi yw ei bechod. Wrth feddwi y deallwn y gwall- gofrwydd amserol arbenig a gynyrchir gan alcohol drwy ei effeithiau naturiol ar yr ymenydd. Nis gall dyn ddim wrth hyny. Deddfau anhyblyo: y greadigaeth sydd yn ei feddwi, y rhai nad oes gan ei ewyllys ef unrhyw ddylanwad arnynt. Rhaid o ganlyniad, fod y pechod yn gorwedd yn nes yn ol yn nghadwyn achos ac effaith, a'r gofyniad yw— pa beth yw y weithred wirfoddol a gyflawnodd y dyn i ddwyn arno ei wallgofrwydd meddw ? Mae'r ateb yn barod—yfed diodydd meddwol, a hyny i'r fath raddau nes colli l'ywodraetb ar aelodau ei gorff a chynheddfau ei feddwl. Dyma ni wedi cyraedd un ddolen o'r gndwen yn nes i'r gwir ddrwg, ac y mae ymholiad arall yn ein cyfarfod yma, ag y rhaid i ni ei ateb.—Pa beth ydyw y briodoledd a berthynayn neillduol i ilcohol, er cynyrchu ei effeithiau syfrdanol ? Fe wyr pawb a chwiliodd i'r pwnc mai cym- ysgedd yw diod feddwol, yn cynwys Uawer o elfenau di- niwaid a maethlon. Nid yw pob gwirod a gwm a bragawd felly i'r un graddau, ond cynwysa pob un o honynt ddogn gweddol o ddwfr, ynghyda siwgr a chyffedesed i beri mel- usder a chwerwder. Ond nid yr un o'r elfenau hyn sydd yn nodweddu diod feddwol, ac y« ei gwahaniaethu oddi- wrth laeth, a the, a choíE. Nod angen diod feddwol ydyw alcohol, yr hwn sydd sylwedd tra hynod ymhlith holl syl- weddau natur. Mewn gwirionedd celfyddyd ae nid natur sydd yn ei gynyrchu, ac nid oes un oreadur ond dyn llyg- redig yn teimlo angen am ei wasanaeth. Y diafol a ddys- godd y geifyddyd o ddarllaw a distyllio, ac efe sydd yn ei chadw yn fyw, er mwyn Uithio eneidiau dynion. Gosod- odd y diafol ei nod arni, yn ei harogl cryf, yr hwn sydd rybudd i'r diniwed ei gochel, a chadw yn bell oddiwrthi. Alcohol, gan hyny, yw yr elfen sydd yn gwahaniaethu diod feddwol oddiwrth bob diod gyffredin. Dyna yw y swyn sydd ynddi i rai, ac sydd yn ei gwneyd yn beryglus i bawb. Gofynwn yn mhellach—paham yr yfa dynion ddiod sydd yn cynwys y gyfryw elfen ? Dywed rhai fod alcohol yn fwyd; eraill mai cyffur medcìyginiaetholydyw ; ondymae mor eglur a'r haul ei fod yn wenwyn. Nid yw pob gwenwyn yn effeithio yn yr un ffordd, ond y mae pob un yn Uadd. Y mae alcohol yn farwol ddychrynllyd, mor beryglus Das goddefir i'r fferyllydd ei werthu heb ei gym- ysgu â chyffuriau anyfadwy,—o ganlyniad, y mae yn wen- wyn. Ac eto yn y cymysgedd a elwir diod feddwol y mae dynion yn ei yfed ! Onid priodol chwilio i mewn i'r achos paham ? Nid paham yr yfant y dwfr sydd.yn y ddiod ; na'r melusder na'r chwerwder: ond paham yr yfant yr alcohol gwenwynig sydd ynddi ? Cyn y gallwn ateb y cwestiwn hwn, rhaid i ni yw sylwi fod mewn dyn ddau fath o chwant. Wrth ehwant yma y deallwn deimlad o eisiau, megis chwant bwyd. Teimia un eisiau naturiol, ac un arall pechadurus. Angen ydyw un: blys yw y llall. Ar gyfer y cyntaf darparodd y Creawdwr angenrheidiau, ac y mae modd i'w ddiwallu. Ar gyfer y llall dyfeisiodd y diafol chwegion, ac y mae yn cynyddu wrth ei borthi. Peth i'w ddiwallu ydyw newyn a syched: peth i'w ddarostwng ydyw blys. Nid oss dim ond bod- olaeth blys yn y meddwl a rydd gyfrif am y ffaith fod dynion yn cymeryd aícohol, a dyna lle y gorphwys hanfod y pechod. Hyn sydd yn dwyn y mater o fewn darnodiad yr Arglwydd Iesu o halogrwydd. <£ Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r dyn sydd yn ei haiogi, ond yr hyn sydd yn dyfod allan o hono." T blya sydd yn tarddu yn nghalon yr yfwr ydyw y pechod, ac nid ei fod ef yn yfed rhyw wlybwr neillduol. Arwydd allanol o'r drwg mewnol yw y weitàred o yfed, ond fod yfed yn ychwanegu y blys fel y ma^^orthi çhwant ymhob cysylltiad yn ei chryfhíiu