Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SWYDDOCOL ÜWCn DEIL ÜEDD AMIBYNOLÜY TEILWYR DA YN NGHYIRU. EHIF. 12 O'R GYF. NEWYDD. EHIF. 33 O'R HEIs GYF. RHAGFYR 1, 1875. [Pris Ceinioö, CRONPA DEMLYDDOL O DDWY FIL 0 BUNAU- Mae lioll Demíyddion y wlad ÿn teirnlo dyddordeb yn Uwyddianfc ein Hurdd, ac yn awyddus am wneyd yr hyn farnont hwy yn angenrheidiol er ei pharhad a'i sefydlog- rwydd. Yr wyf yn arfer meddwl îy mod jn un o'r aelodau mwyaf zelog fedd yr Urdd, nid yn unig yn Nghymru, ond yr holl fyd hefyd. Ac yn ychwanegol afc y zel naturiol sydd ynof dro3 lwyddiant eithaf ein hamcan gogoneddus, mae y safla bwysig y goaodwyd fi ynddi trwy bleidlais nnfrydol fy mrodyr am chwiorydd yn Aberystwyth, fis Ebriil diweddaf, yn gosod cyfrifoldeb mawr ar fy ysgwydd- au—cymaint fel yr wyf yn methu teimlo esmwythder oddiwrtho nos na dydd—gartref neu oddi cartref. Am lawer o fisoedd, yr oedd Temlyddiaeth yn teithio gyda'r express yn Nghymru ; ond er's mwy na dwy flynedd bellach mae wedi newid yr express am yr ordinary train ; a chyda'r diweddaf yr oedd yn teithio pan otynwyd i mi, yn Nghaernarfon, gy- meryd gofal o honi ; ac yn wir am y rheswm hwnw y meddyliais am yragymeryd â'r fath waith â chyfrifoldeb, a miaau yn methu gwneyd yn biiodol yr hyn oedd genyf o'r blaen. Penderfynais y cawn i a'm teulu, a phethäu eraill ddioddef ychydig cyn y cai mudiad mor odidog wedi cychwyn mor addawol fyned i lawr. Nis gall fod dau feddwl am effeithiau daionus Temlyddiaeth yn Nghymru. Heblaw gwneyd degau o filoedd yn llwyr- ymatalwyr a arferenfc yfed yGhydig o'r blaen—deffroi swydd- ogion ac aelodau eglwysig i ymdeimlo â'u rhwymedigaeth i G'rist ac i ddynoliaeth—puro y cyfundebau crefyddol, di- wygio disgyblaeth eglwysig—galw sylw etholwyr asenedd- wyr at ddrygau y fasnach feddwol—gwasgaru llenyddiaeth iachus, a ff urfio barn gyhoeddus ar bwnc mawr sobrwydd— heblaw hyn oll mae Temlyddiaeth wedi sobri dros ddwy fil o Gymry meddwon—wedi dodrefnu tai gweigion, a dwyn y crwydriaM i dŷ—wedi amddiffyn y gorthrymedig, a throi y gorthrymwr yn noddwr—wedi porthi a dilladu plant truenus y meddwon—ac wedi dwyn canoedd i eistedd wrrh draed yr Iesu " yn eu dillad a'u hiawn bwyll." Mae hyn oll, a llawer mwy ellid nodi, yn gosod r'iwym- au neillduol ar bawb sydd yn caru Duw ac yn ceiaio dyr- chafiad eu cyd-ddynion, i wneyd a alíont er cadw Temlyddiaeth i fyny, a'i gwneyd yn allu mwy nag erioed er daioni yn ein gwlad. Wedi meddwl llawer ar hyn, daethum i'r penderfyniad fod codi Cronfa o Ddwy Fil o Bunau yn hollol angenrheidiol er sicrhau llwyddiant sefydlog i'r Urdd,- Ac y mae yn wir dda genyf fod y pwyllgor gweithiol yn calonog gymer- adwyo y meddylddrych, yn gystal a phob Dirprwywr Dos- barthol y cefais afceb oddiwrtho. Erbyn hyn, ymddengys fod y syniad yn ddigon addfed i'w gyfleu ger bron yr Urdd a'r wlad yn gyffredinoî. Pan oedd pethau yn cerdded wrth eupwysau tybiai rhai y gellid gwneyd heb arian o gwbl, gan Iwyr anghofio y rhaid i bob mudiad, yn hwyr neu yn hwyraeh suddo i'w level naturiol. Fel hyn, gwnaed brys mawr i oatwng y blaen-dâl a'r tâl crmarterol, am y buasai hyny meddid yn ychwanegu miloedd at eu nifer. Trwy y gosfcyngiadau uchod nid oes 4an liaws o Demlau ddigon o arian i wneyd gwaith yr Urdd yn eu cymydogaethau. Hefyd, trwy ranu Cymru yn ddwy Uwch Deml, lleihawyd derbyniadau yr Uwch Swyddfa, tra nad oedd lleihad cyfatebol ár y draul, canys nid oeddarolygu 700 o Demlau yn gofyn fawr ychwaneg o dvaul nag arolygu 450, Fel hyn, mae arian yr Uwch Deml, yn gysta1 a'r Is- demlau yn rhy brin i gario allan ei gweithrediadáu yn effeithiol. Gwyddis fod Uwch Demlau Lloegr a'r Iwerddon mewn dyled—ac ymdrechion yn cael eu gwneyd i'w talu. Pen- derf ynodd Uwch Deml Lloegr, yn ei heisteddiad blynyddol yn Llundain yr haf diweddaf, godi cronfa o D deng Mil o bunau, a thanysgrifiwyd dros ddwy fil a haner cyn diwedd yr eisteddiad. Mae bwriad cyffelyb gan Uwch Deml Saesneg Cymry ac Uwch Deml Iwerddon. Ymddengys i mi y cyrhaeddid amcanion pwysig i'r Urdd trwy y Gronfa gynygiedig. Teimlir dau angen mawr yn barhaus trwy y wlad—areithwyr i gyfarfodydd cyhoeddus, a dysgawdwyr i'r Teralau. Mae genym liawá o areithwyr enwog yn y Dywysogaeth, ond nid oes arian i'w talu ; a rhaid i'r Urdd wrth gyfarfodydd cyhoeddns dylanwadol a rheolaidd cyn y gall ddal ei thir. Mae lliaws o Demlau gweiniaid a ddeuent yn rhai cryfion pe gellid eu cynorth- wyo am ychydig. Nis gellir disgwyl i'r Dosbarth Ddir- prwywr a'r Dirprwywyr Neillduol wneyd yr oll sydd yn eisiau, a hyny am ddim. Ni buasai yr Urdd Ile y mae heddyw oddieithr am lafur rhad brodyr teilwng yn weinid- ogion a lleygwyr, yn gystal a llawer o chwiorydd. Eithr y mae rhyw derfyn i lafur rhad, er cystal ydyw. Nis gall- wn byth wneyd hebddo mwy nag y gallwn yn llwyr ymddi- bynu arno.